Adolygiad o Gomisiynwyr

Adolygiad o Gomisiynwyr

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn casglu gwybodaeth am ariannu Comisiynwyr yng Nghymru. Mae hyn ar ôl i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2022 mewn perthynas â’i waith craffu blynyddol ar Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

 

Ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar 7 Ebrill 2022, yn dilyn y sesiwn graffu flynyddol gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

Ymatebodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar 10 Mai 2022, er mwyn nodi bod y Pwyllgor wedi trafod llythyr y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ei gyfarfod ar 27 Ebrill 2022, a’i fod wedi nodi argymhelliad 1 yn ei adroddiad. Yn ogystal, nododd y Pwyllgor ei fod wedi cytuno i ddychwelyd i’r mater er mwyn gwneud gwaith craffu pellach ar Gomisiynwyr Cymru, a hynny fel rhan o waith craffu blynyddol y Pwyllgor ar gyfrifon.

 

Ar 30 Tachwedd 2022, ysgrifennodd y Cadeirydd at y canlynol er mwyn casglu tystiolaeth ysgrifenedig yn ymwneud â’r modd y caiff Comisiynwyr yng Nghymru eu hariannu:

>*>*>*

*** Comisiynydd Plant Cymru

*** Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

*** Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

*** Comisiynydd y Gymraeg.

<*<*<*

 

Ar 21 Rhagfyr 2022, ysgrifennodd y Cadeirydd at Lywodraeth Cymru.

 

Gellir gweld yr ymatebion ysgrifenedig yma.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion ysgrifenedig yn sesiwn breifat y cyfarfod ar 30 Mawrth 2023.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar 19 Gorffennaf 2023 – mae bellach wedi cwblhau ei ystyriaeth o'r maes gwaith hwn

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/11/2022

Dogfennau