Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/01/2019 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Diolchodd y Cadeirydd i Jenny Rathbone AC a Jane Hutt AC am eu gwaith fel
aelodau o'r Pwyllgor a chroesawodd Vikki Howells AC a Jayne Bryant AC, a
gymerodd eu lle. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AC. Nid oedd dirprwy ar ei rhan. |
||
(09.30 - 10.30) |
Craffu Blynyddol ar Amgueddfa Genedlaethol Cymru David
Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Neil
Wicks, Dirprwy Gyfarwyddwr a Chyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Corfforaethol Nia
Williams, Cyfarwyddwr Addysg ac Ymgysylltu Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. 2.2
Cytunodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru i ddarparu'r canlynol i'r Pwyllgor; •
amlinelliad
o'u strategaeth sgiliau; a •
nifer yr
ymwelwyr a dalodd i ymweld ag arddangosfeydd yn ystod 2017-18, gan gynnwys y
nifer a dalodd gyfradd ostyngedig. |
|
(10.30 - 11:30) |
Cefnogi a hybu’r Gymraeg: Ymchwiliad i’r cyd-destun deddfwriaethol a pholisi ac yn ehangach: Sesiwn dystiolaeth 10 Gwyneth
Ayers, Rheolwr Partneriaeth a Pholisi Corfforaethol, Cyngor Sir Caerfyrddin Lyndon Puddy, Pennaeth Uned Gefnogi Gwasanaethau
Cyhoeddus, Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen Sioned Wyn Davies, Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol a
Gwasanaethau Cwsmeriaid, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. |
|
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 4.1 Nododd
aelodau'r Pwyllgor y papurau. |
||
Ymateb gan Gyfarwyddwr BBC Cymru: Cyfleoedd i awduron ac actorion Cymru Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Cofnodion: 6.1
Derbyniwyd y cynnig. |
||
(11:30 - 12:00) |
Ôl-drafodaeth breifat Cofnodion: 7.1
Trafododd yr Aelodau'r dystiolaeth a ddaeth i law. |