Cefnogi a hybu’r Gymraeg: Ymchwiliad i’r cyd-destun deddfwriaethol a pholisi ac yn ehangach
Inquiry5
Cynhaliodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
ymchwiliad i gefnogi a hybu’r Gymraeg.
Cefndir
Fel rhan o’i ymchwiliad, bu’r Pwyllgor yn gwneud gwaith
craffu ar ôl deddfu ar Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Roedd hyn yn cynnwys asesu'r broses o weithredu'r ddeddfwriaeth, ei heffaith a'i
heffeithiolrwydd. Roedd yr ymchwiliad hefyd yn rhoi cyfle i asesu
penderfyniadau polisi ehangach Llywodraeth Cymru o ganlyniad i gyflwyno Mesur
2011, yn enwedig yng nghyd-destun safonau’r Gymraeg.
Bu’r Pwyllgor hefyd yn trafod y cyd-destun rhyngwladol
ehangach, yn enwedig lle ceir enghreifftiau o ddeddfwriaeth a chynllunio
ieithyddol sy'n cefnogi ieithoedd lleiafrifol.
Adroddiad
Ym mis
Gorffennaf 2019, cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad (PDF;
728KB).
Ymateb i'r adroddiad
Cafwyd ymateb gan Lywodraeth Cymru a gellir ei weld yma (PDF,
400KB).
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/08/2018