Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/04/2024 - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r tystion i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Russel George AS; roedd James Evans AS yn dirprwyo ar ei ran. Roedd gan David Rees a James Evans fuddiannau i’w datgan gan fod aelodau o’u teuluoedd yn gweithio yn y Gwasanaethau Plant.

 

(10.00 - 11.30)

2.

Plant â phrofiad o fod mewn gofal

Vaughan Gething AS, Prif Weinidog Cymru.

Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr Galluogi Pobl, y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio.

Taryn Stephens, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwelliant.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Prif Weinidog mewn perthynas â’r polisi'n ymwneud â phlant â phrofiad o fod mewn gofal.

 

(11.30 - 12.30)

3.

Craffu cyffredinol

Vaughan Gething MS, Prif Weinidog Cymru.

Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr y Cytundeb Cydweithio.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i'r Prif Weinidog ar bynciau’r dydd.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

5.

Trafod y sesiynau tystiolaeth blaenorol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y ddwy sesiwn.

 

 

 

5.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.

 

6.

Trafod cyfarfodydd y dyfodol

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal y cyfarfod nesaf ar 12 Gorffennaf a Chymunedau Gwledig fydd y pwnc dan sylw.