Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/01/2024 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS. |
|
Deisebau newydd |
|
P-06-1367 Dylid ariannu gwaith i symud creigiau chwarel ac adfer tywod a grwynau i Lannau Gogledd Llandudno Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i wneud cais
am ddadl ar y mater. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-06-1217 Agor canolfannau / clinigau meddygol un stop Covid Hir Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a mynegodd ei siom nad oedd cyfarfod rhwng swyddogion
Llywodraeth Cymru a'r deisebydd wedi'i gynnal ac na chafwyd unrhyw gyswllt.
Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog yn mynegi siom y Pwyllgor ac yn
gofyn am gysylltu â'r deisebydd cyn gynted â phosibl. |
|
P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â deiseb P-06-1354 Dylai Llywodraeth Cymru
gefnogi rasio milgwn yng Nghymru a chroesawodd yr ymgynghoriad ar drwyddedu
sefydliadau lles, gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid sy'n dod i ben
ar 1 Mawrth. Cytunodd yr
Aelodau i gadw golwg ar y deisebau nes bod canlyniad yr ymgynghoriad yn cael ei
gyhoeddi. |
|
P-06-1354 Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi rasio milgwn yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â deiseb P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng
Nghymru a chroesawodd yr ymgynghoriad ar drwyddedu sefydliadau lles,
gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid sy'n dod i ben ar 1 Mawrth. Cytunodd yr
Aelodau i gadw golwg ar y deisebau nes bod canlyniad yr ymgynghoriad yn cael ei
gyhoeddi. |
|
P-06-1368 Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i gadw’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol mewn perthynas â Chymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod amgylchiadau wedi newid ers pasio Deddf
Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 ac nad oes dyddiad dod i
ben bellach ar gyfer Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Nododd yr Aelodau
hefyd fod y Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r
Cyfansoddiad yn gwerthfawrogi'r gwaith a wnaed gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Yng ngoleuni hyn,
cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr am eu gwaith ar y
mater hwn a’u diddordeb. |
|
P-06-1333 Dylid atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag torri coed, sy’n bygwth parhad gwiwerod coch Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd mai dyma'r ail ddeiseb sy'n codi pryder am ddull
Cyfoeth Naturiol Cymru o dorri coed a diogelu gwiwerod coch. Cytunodd yr
Aelodau i gadw'r ddeiseb ar agor am 12 mis a gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf
am gynnydd y gwaith ar y cyd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid sy'n
ymwneud â chadwraeth wiwerod coch yng Ngwynedd ac Ynys Môn. |
|
P-06-1363 Achubwch ein Gwasanaeth Tân ac Achub Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Jack
Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae wedi
ysgrifennu at Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ynghylch y mater hwn sy'n
effeithio ar ei etholaeth. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd y newyddion cadarnhaol nad yw gorsafoedd y Rhyl a
Glannau Dyfrdwy wedi cael eu hisraddio yn dilyn yr ymgynghoriad, a disgwylir
i’r lefel bresennol o ddarpariaeth barhau. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr
Aelodau i gau'r ddeiseb a llongyfarch y deisebydd a phawb a gefnogodd yr
ymgyrch. |
|
P-06-1375 Cynnal etholiad Senedd yn gynnar Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd, er ei fod wedi casglu'r nifer gofynnol o
lofnodion i ystyried cyfeirio'r ddeiseb ar gyfer dadl yn y Senedd, nid oes
unrhyw fanteision clir i wneud hynny, nac i gymryd unrhyw gamau pellach o ran y
ddeiseb. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r
deisebydd am ymgysylltu â’r Pwyllgor |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cafodd y papurau
eu nodi. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Blaenraglen waith Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ei flaenraglen waith. |