Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lleu Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Cofnodion: 1.1 Yng ngyfarfod
y Pwyllgor ar 6 Hydref, cafodd Alun Davies AS ei ethol yn Gadeirydd dros dro ar
gyfer y pedair eitem gyntaf a fyddai’n cael eu trafod yn y cyfarfod heddiw.
Nododd y Cadeirydd dros dro fod ymddiheuriadau wedi dod i law ar gyfer yr
eitemau hyn gan Laura Ann Jones AS a Heledd Fychan AS. Roedd y ddwy wedi bod yn
rhan o'r panel recriwtio ar gyfer y swydd, ac felly wedi cytuno na ddylent fod
yn bresennol ar gyfer eitemau'n ymwneud â'r gwrandawiad cyn penodi. Roedd
Sioned Williams AS yn dirprwyo. 1.2 Croesawodd y
Cadeirydd dros dro’r Aelodau a’r tystion i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau
gan Carolyn Thomas AS. |
|
(09.30-10.15) |
Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer y rôl Comisiynydd y Gymraeg: Sesiwn dystiolaeth gyda’r ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru Efa Gruffudd
Jones, yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rôl Comisiynydd y
Gymraeg Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Bu’r Pwyllgor
yn cynnal gwaith craffu ar yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru. |
|
(10.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 4, 7 ac eitem 8 Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
|
(10.15-10.20) |
Ôl-drafodaeth breifat Cofnodion: 4.1 Trafododd y
Pwyllgor dystiolaeth a glywyd yn y sesiwn gyda'r ymgeisydd a ffefrir. 4.2 Oherwydd amserlenni
ar gyfer cyflwyno adroddiadau, cytunodd yr Aelodau i ystyried yr adroddiad ar y
gwrandawiad cyn penodi, a chytuno arno, yn electronig. Caiff yr adroddiad ei
osod ddechrau’r wythnos nesaf. |
|
(10.30-11.30) |
Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg: Sesiwn dystiolaeth gyda darparwyr addysg cyfrwng Cymraeg ym meysydd y blynyddoedd cynnar, ôl-16 ac addysg oedolion Angharad Morgan,
Rheolwr Polisi, Mudiad Meithrin Aled
Jones-Griffith, Pennaeth Coleg Meirion Dwyfor a Choleg Menai, ColegauCymru Dafydd Trystan,
Cofrestrydd ac Uwch-reolwr Academaidd, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd Tystiolaeth
ysgrifenedig gan y Mudiad Meithrin Tystiolaeth
ysgrifenedig gan ColegauCymru Ymateb i’r
ymgynghoriad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Dychwelodd
Delyth Jewell AS i’r Gadair am weddill y cyfarfod a diolchodd i Alun Davies AS
am gadeirio’r cyfarfod yn ystod y pedair eitem gyntaf. Ymunodd Heledd Fychan AS
â’r cyfarfod. 5.2 Estynnodd y
Cadeirydd groeso arbennig i Sioned Williams AS a Buffy Williams AS o’r Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a oedd yn bresennol i drafod yr ymchwiliad ar y cyd
i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. 5.3 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Mudiad Meithrin; Colegau Cymru a’r Coleg
Cymraeg Cenedlaethol. |
|
(11.40-12.40) |
Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg: Sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr llywodraeth leol Darren Price,
Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) dros y Gymraeg ac Arweinydd
Cyngor Sir Gaerfyrddin Meinir Ebbsworth,
Prif Swyddog Addysg Cyngor Sir Ceredigion a chynrhychiolydd ADEW Cymdeithas
Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (ADEW) Tystiolaeth
ysgrifenedig ar y cyd gan CLlLC ac ADEW Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr llywodraeth leol. |
|
(12.40-13.00) |
Ôl-drafodaeth breifat Cofnodion: 7.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 5 a 6. |
|
(13.00-13.15) |
Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Protocol Gogledd Iwerddon Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Cafodd y
Pwyllgor bapur briffio ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil
Protocol Gogledd Iwerddon. 8.2 Trafododd yr
Aelodau’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Protocol Gogledd
Iwerddon a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes mewn perthynas â’r
dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau. |