Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Manon George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/05/2025 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09:15

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cofnodion:

1.1         Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2         Cafwyd ymddiheuriadau gan Lee Waters AS ac Alun Davies AS. Roedd Hannah Blythin AS yn bresennol yn y cyfarfod gan ddirprwyo ar ran Lee Waters AS.

1.3         Roedd Heledd Fychan AS yn y cyfarfod ar gyfer eitem 1 ac eitem 2, a rhoddodd ei hymddiheuriadau am weddill y cyfarfod. Roedd Siân Gwenllian AS yn bresennol fel dirprwy ar ran Heledd Fychan AS ar gyfer eitem 3.

 

09:15-10:05

2.

Ymchwiliad ar Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru - Sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr technoleg (Panel 5)

Yr Athro Siraj Shaikh, Athro mewn Diogelwch Systemau, Prifysgol Abertawe

Chris Meadows, Cyfarwyddwr, CSconnected

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Aelodau yn holi’r tystion fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru.

 

10:15-11:15

3.

Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru - Sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr o’r maes twristiaeth a diwylliant (Panel 6)

Patricia Yates, Prif Weithredwr, Visit Britain

Eluned Hâf, Pennaeth, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Cofnodion:

3.1 Bu’r Aelodau yn holi’r tystion twristiaeth a diwylliant fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru.

3.2 Datganodd Mick Antoniw MS fuddiant gan fod ei fab yn gweithio ar y gyfres deledu Welcome to Wrexham.

 

11:25-12:10

4.

Sesiwn dystiolaeth gyda Chadeirydd newydd S4C

Delyth Evans – Cadeirydd S4C

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Bu’r Aelodau yn holi Cadeirydd newydd S4C.

 

12:10

5.

Papurau i’w nodi

5.1

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nodwyd y papur.

 

5.2

Adroddiad Blynyddol ar Gysylltiadau Rhyngwladol 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.2 Nodwyd y papur.

 

5.3

Cytundeb Partneriaeth 100 Mlynedd y DU ac Wcráin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.3 Nododd y Pwyllgor y papurau a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am ragor o fanylion ynghylch Cytundeb Partneriaeth Can Mlynedd y DU ac Wcráin.

 

12:10

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

12:10-12:20

7.

Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru – trafod y dystiolaeth a gafwyd.

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd.

 

12:20-12:30

8.

Sesiwn dystiolaeth gyda Chadeirydd newydd S4C - Ystyried y dystiolaeth a gafwyd.

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

8.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn mynegi eu bod yn cymeradwyo'r penodiad, ac y dylai'r Pwyllgor fod wedi cael gwrandawiad cyn-penodi gyda'r Cadeirydd newydd.