Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/10/2022 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cofnodion:

1.1 Yng ngyfarfod y Pwyllgor ar 6 Hydref, cafodd Alun Davies AS ei ethol yn Gadeirydd dros dro ar gyfer y pedair eitem gyntaf a fyddai’n cael eu trafod yn y cyfarfod heddiw. Nododd y Cadeirydd dros dro fod ymddiheuriadau wedi dod i law ar gyfer yr eitemau hyn gan Laura Ann Jones AS a Heledd Fychan AS. Roedd y ddwy wedi bod yn rhan o'r panel recriwtio ar gyfer y swydd, ac felly wedi cytuno na ddylent fod yn bresennol ar gyfer eitemau'n ymwneud â'r gwrandawiad cyn penodi. Roedd Sioned Williams AS yn dirprwyo.

1.2 Croesawodd y Cadeirydd dros dro’r Aelodau a’r tystion i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Carolyn Thomas AS.

(09.30-10.15)

2.

Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer y rôl Comisiynydd y Gymraeg: Sesiwn dystiolaeth gyda’r ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru

Efa Gruffudd Jones, yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rôl Comisiynydd y Gymraeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn cynnal gwaith craffu ar yr ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru.

(10.15)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 4, 7 ac eitem 8

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

(10.15-10.20)

4.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor dystiolaeth a glywyd yn y sesiwn gyda'r ymgeisydd a ffefrir.

 

4.2 Oherwydd amserlenni ar gyfer cyflwyno adroddiadau, cytunodd yr Aelodau i ystyried yr adroddiad ar y gwrandawiad cyn penodi, a chytuno arno, yn electronig. Caiff yr adroddiad ei osod ddechrau’r wythnos nesaf.

(10.30-11.30)

5.

Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg: Sesiwn dystiolaeth gyda darparwyr addysg cyfrwng Cymraeg ym meysydd y blynyddoedd cynnar, ôl-16 ac addysg oedolion

Angharad Morgan, Rheolwr Polisi, Mudiad Meithrin

Aled Jones-Griffith, Pennaeth Coleg Meirion Dwyfor a Choleg Menai, ColegauCymru

Dafydd Trystan, Cofrestrydd ac Uwch-reolwr Academaidd, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

 

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

Tystiolaeth ysgrifenedig gan y Mudiad Meithrin

Tystiolaeth ysgrifenedig gan ColegauCymru

Ymateb i’r ymgynghoriad gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Dychwelodd Delyth Jewell AS i’r Gadair am weddill y cyfarfod a diolchodd i Alun Davies AS am gadeirio’r cyfarfod yn ystod y pedair eitem gyntaf. Ymunodd Heledd Fychan AS â’r cyfarfod.

5.2 Estynnodd y Cadeirydd groeso arbennig i Sioned Williams AS a Buffy Williams AS o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a oedd yn bresennol i drafod yr ymchwiliad ar y cyd i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.

5.3 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Mudiad Meithrin; Colegau Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

(11.40-12.40)

6.

Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg: Sesiwn dystiolaeth gyda chynrychiolwyr llywodraeth leol

Darren Price, Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) dros y Gymraeg ac Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin

Meinir Ebbsworth, Prif Swyddog Addysg Cyngor Sir Ceredigion a chynrhychiolydd ADEW

Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (ADEW)

 

Tystiolaeth ysgrifenedig ar y cyd gan CLlLC ac ADEW

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr llywodraeth leol.

(12.40-13.00)

7.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 5 a 6.

(13.00-13.15)

8.

Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Protocol Gogledd Iwerddon

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Cafodd y Pwyllgor bapur briffio ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Protocol Gogledd Iwerddon.

8.2 Trafododd yr Aelodau’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Protocol Gogledd Iwerddon a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau.