Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhys Morgan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/03/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.00 - 13.30) |
Cofrestru Cofnodion: 1.1 Cofrestrodd y cyfranogwyr ar gyfer y cyfarfod. |
|
(13.30 - 13.40) |
Sylwadau agoriadol a chroeso gan y Cadeirydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyfranogwyr i'r
cyfarfod. |
|
(13.40 - 14.50) |
Trafodaethau grŵp Cofnodion: 3.1 Ymunodd y cyfranogwyr â’r ystafelloedd trafod i
drafod y Cylch Gorchwyl drafft ar gyfer ymchwiliad i ddiogelwch menywod a
thrais ar sail rhywedd. Dyma gylch gorchwyl drafft yr ymchwiliad: – Profiad a chanfyddiad menywod a merched o drais ac
aflonyddu rhywiol mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru, fel ar drafnidiaeth
gyhoeddus, mewn dinasoedd, mewn ysgolion, mewn mannau gwyrdd ac ati. Yr angen /
posibilrwydd o ran deddfwriaeth yn y dyfodol i wneud menywod a merched yn fwy
diogel yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas ag aflonyddu rhywiol cyhoeddus. – Trais yn erbyn menywod a merched yn y cartref, gan
gynnwys ymdriniaeth/ dealltwriaeth yr heddlu o’u dyletswydd (ar gais y fenyw) i
ymyrryd mewn sefyllfaoedd o drais domestig, hyd yn oed pan fo’n digwydd yn y cartref. – Ffocws ar grwpiau a materion sydd wedi'u hesgeuluso, i
ddeall yn well sut mae trais yn wahanol i rannau gwahanol o'r boblogaeth, yn
benodol menywod â statws mewnfudo ansicr, neu’r rhai y mae eu statws mewnfudo
yn dibynnu ar briod neu gyflogwr. – Cwmpas, cyrhaeddiad a’r broses o gomisiynu gwasanaethau
ac ymyriadau ar gyfer goroeswyr yng Nghymru, ac unrhyw effaith y mae pandemig
COVID-19 wedi’i chael ar sefydliadau trydydd sector sy’n darparu llochesi,
cymorth cyfreithiol a gwasanaethau cymorth. – Dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran atal
cychwynnol, ac a wneir digon o ymdrech i atal trais cyn iddo ddigwydd drwy
weithio gyda grwpiau allweddol (fel dynion, glasoed a phlant sydd wedi bod yn
dyst i gamdriniaeth), ac i newid normau diwylliannol a chymdeithasol sy’n ategu
trais ar sail rhywedd. – A yw dyraniadau cyllideb Llywodraeth Cymru yn ddigonol
i weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
(Cymru) 2015 a gweithredu cam nesaf ei strategaeth genedlaethol ar gyfer 2022-26,
gan gynnwys ystyried a gafwyd buddsoddiad cost-effeithiol mewn adnoddau i
gryfhau arbenigedd mewn sectorau allweddol ac i wella tagfeydd o ran darparu
gwasanaethau (h.y. er mwyn i Lywodraeth Cymru gyflawni ei hymrwymiadau polisi i
roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched). |
|
(14.50 -15.15) |
Adborth o’r sesiynau grŵp Cofnodion: 4.1 Rhoddodd pob grŵp wybod beth
oedd eu canfyddiadau allweddol. |
|
(15.15) |
Sylwadau i gloi Cofnodion: Diolchodd y Cadeirydd i'r cyfranogwyr am eu cyfraniadau a
chaeodd y cyfarfod. |