Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhys Morgan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/01/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13:30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb a
Chyfiawnder Cymdeithasol. Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi’n gadael y
cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Sarah Murphy AS yn Gadeirydd Dros Dro yn
unol â Rheol Sefydlog 17.22. Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(13:30-15:00) |
Y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2022-23: Sesiwn graffu gyda’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt, Y
Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Hannah Blythyn, Y
Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Claire Bennett,
Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi Maureen Howell,
Dirprwy Gyfarwyddwr Yr Is-adran Dyfodol Ffyniannus Sian Gill,
Pennaeth Adroddi Ariannol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cynhaliodd yr Aelodau sesiwn graffu gyda’r Gweinidog Cyfiawnder
Cymdeithasol a swyddogion o Lywodraeth Cymru. |
|
(15:00-15:05) |
Papurau i’w nodi |
|
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE - 26 Tachwedd 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr Aelodau’r ohebiaeth. |
||
Gohebiaeth gan Gomisiynydd Plant Cymru ynghylch craffu ar y Gyllideb 2022-23 - 14 Ionawr 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr Aelodau’r ohebiaeth. |
||
Amcangyfrif Cyllideb Comisiynydd Plant Cymru 2022-23 - 14 Ionawr 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr Aelodau’r ohebiaeth. |
||
Gohebiaeth at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch canolfannau preswyl i fenywod - 21 Rhagfyr Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr Aelodau’r ohebiaeth. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch creu canolfan breswyl i fenywod - 18 Ionawr Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr Aelodau’r ohebiaeth. |
||
Gohebiaeth at y Prif Weinidog ynghylch cyfiawnder data - 21 Rhagfyr Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr Aelodau’r ohebiaeth. |
||
Gohebiaeth gan y Prif Weinidog ynghylch cyfiawnder data – 18 Ionawr Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr Aelodau’r ohebiaeth. |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol - 21 Rhagfyr 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr Aelodau’r ohebiaeth. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw. Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
||
(15:05-15:40) |
Y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2022-23: trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2, a
chytunodd i ystyried ei adroddiad drafft y tu allan i’r Pwyllgor. |
|
(15:50-16:10) |
Monitro’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi’r adroddiad monitro hwn, ac unrhyw
adroddiadau tebyg yn y dyfodol, i ddangos sut mae’r Pwyllgor yn monitro’r
mater. Cytunodd y Pwyllgor i roi copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd i’r Awdurdod
Monitro Annibynnol. Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o’r
Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yng Nghymru. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Aelodau Seneddol i ofyn pa waith achos
sydd ganddynt sy’n gysylltiedig â’r Cynllun Preswylio. |
|
(16:10-16:25) |
Adolygiad o amserlenni’r pwyllgorau: trafod yr ymateb drafft i’r Llywydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr Aelodau yr ymateb drafft i’r Llywydd a
chytunwyd i’w gwblhau y tu allan i’r Pwyllgor. |