Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhys Morgan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/11/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(12.45)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r tystion i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

  

1.2 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Sarah Murphy AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

1.3 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau gan Aelodau.

 

 

(12.45 - 13.45)

2.

Gofal plant a chyflogaeth rhieni – sesiwn dystiolaeth

Rachel Thomas, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus, Comisiynydd Plant Cymru

Ruth Coombs, Pennaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru

Martyn Jones, Cadeirydd Dros Dro Pwyllgor y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru

 

Gellir gweld ymatebion unigol i'r ymgynghoriad ar wefan y Pwyllgor (cyhoeddus / cyfyngedig).

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth yn ymwneud â gofal plant a chyflogaeth rhieni.

 

(13.45)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i eithrio'r cyhoedd o eitemau 4, 7 ac 8 o'r cyfarfod heddiw

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(13.45 - 14.00)

4.

Gofal plant a chyflogaeth rhieni – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2.

 

(14.00 - 15.00)

5.

Gofal plant a chyflogaeth rhieni – sesiwn dystiolaeth

Julie Morgan AS, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Nicola Edwards, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar

Claire Bennett, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth yn ymwneud â gofal plant a chyflogaeth rhieni.

 

(15.00)

6.

Papurau i’w nodi

6.1

Gohebiaeth gan Jill Youds, Cadeirydd y Bwrdd Pensiynau at y Llywydd ynghylch Bil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol - 9 Tachwedd 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.

 

6.2

Gwybodaeth ychwanegol o'r astudiaeth Covid a Gofal Plant - 12 Tachwedd 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2a Nododd yr Aelodau y wybodaeth ychwanegol.

 

6.3

Gohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch yr ymchwiliad gofal plant a chyflogaeth rhieni - 22 Tachwedd 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.3a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.

 

 

(15.00 - 15.15)

7.

Gofal plant a chyflogaeth rhieni – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 5.

 

(15.15 - 15.30)

8.

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd yr Aelodau y flaenraglen waith a chytunodd ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad arfaethedig.