Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhys Morgan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/01/2022 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi’n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Sarah Murphy AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

 

(13:30-15:00)

2.

Y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2022-23: Sesiwn graffu gyda’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

 

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Hannah Blythyn, Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Claire Bennett, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi

Maureen Howell, Dirprwy Gyfarwyddwr Yr Is-adran Dyfodol Ffyniannus

Sian Gill, Pennaeth Adroddi Ariannol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cynhaliodd yr Aelodau sesiwn graffu gyda’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a swyddogion o Lywodraeth Cymru.

 

(15:00-15:05)

3.

Papurau i’w nodi

3.1

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE - 26 Tachwedd 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau’r ohebiaeth.

 

3.2

Gohebiaeth gan Gomisiynydd Plant Cymru ynghylch craffu ar y Gyllideb 2022-23 - 14 Ionawr 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau’r ohebiaeth.

 

3.3

Amcangyfrif Cyllideb Comisiynydd Plant Cymru 2022-23 - 14 Ionawr 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau’r ohebiaeth.

 

3.4

Gohebiaeth at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch canolfannau preswyl i fenywod - 21 Rhagfyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau’r ohebiaeth.

 

3.5

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch creu canolfan breswyl i fenywod - 18 Ionawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau’r ohebiaeth.

 

3.6

Gohebiaeth at y Prif Weinidog ynghylch cyfiawnder data - 21 Rhagfyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau’r ohebiaeth.

 

3.7

Gohebiaeth gan y Prif Weinidog ynghylch cyfiawnder data – 18 Ionawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau’r ohebiaeth.

 

3.8

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol - 21 Rhagfyr 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau’r ohebiaeth.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(15:05-15:40)

5.

Y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2022-23: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2, a chytunodd i ystyried ei adroddiad drafft y tu allan i’r Pwyllgor.

 

(15:50-16:10)

6.

Monitro’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi’r adroddiad monitro hwn, ac unrhyw adroddiadau tebyg yn y dyfodol, i ddangos sut mae’r Pwyllgor yn monitro’r mater.

Cytunodd y Pwyllgor i roi copi o’r adroddiad a gyhoeddwyd i’r Awdurdod Monitro Annibynnol.

Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yng Nghymru.

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Aelodau Seneddol i ofyn pa waith achos sydd ganddynt sy’n gysylltiedig â’r Cynllun Preswylio.

 

 

(16:10-16:25)

7.

Adolygiad o amserlenni’r pwyllgorau: trafod yr ymateb drafft i’r Llywydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau yr ymateb drafft i’r Llywydd a chytunwyd i’w gwblhau y tu allan i’r Pwyllgor.