Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Catherine Hunt 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/10/2023 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

 

1.2 Daeth ymddiheuriadau i law gan Luke Fletcher AS.

 

1.3 Roedd Peredur Owen Griffiths AS yn dirprwyo ar ran Luke Fletcher AS.

 

(9:30 - 11:00)

2.

Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) – Tystiolaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Michael Kay – Uwch Swyddog Cyfrifol y Bil – Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Etholiadau, Llywodraeth Cymru

Gareth McMahon – Uwch Gyfreithiwr y Llywodraeth – Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraeth Cymru

 

Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)

 

Memorandwm Esboniadol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn:

 

Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Michael Kay Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Etholiadau

Gareth McMahon – Uwch Gyfreithiwr y Llywodraeth, Gwasanaethau Cyfreithiol

 

2.2 Cytunodd y Cwnsler Cyffredinol i gadarnhau pa weithdrefn a gaiff ei defnyddio i wneud yr is-ddeddfwriaeth sy'n ofynnol ar gyfer dileu'r gofrestr agored ar gyfer etholiadau Cymru.

 

3.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

3.1

Llythyr at Lywodraeth Cymru – Asedau cymunedol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Lywodraeth Cymru.

 

3.2

Llythyr at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip – Darparu cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin / Darparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11:00-11:30)

5.

Y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) – Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth.

 

(11:30-11:40)

6.

Cyllideb ddrafft 2024-25 – Y dull o graffu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull o graffu ar y Bil.