Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Manon George
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 19/01/2023 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i
gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. 1.2
Ni chafwyd ymddiheuriadau,
dirprwyon na datganiadau o fuddiant. |
|
(09.00 - 10.30) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023 - 24 - sesiwn dystiolaeth 3: Y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James AS, y
Gweinidog Newid Hinsawdd Emma Williams, Cyfarwyddwr
Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru Dean Medcraft, Cyfarwyddwr
Cyllid a Gweithrediadau, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth
Cymru Dean Medcraft, Cyfarwyddwr, Cyllid a Gweithrediadau,
Llywodraeth Cymru 2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu dadansoddiad o’r
ymyriadau a wnaed fel rhan o’r cynllun peilot ail gartrefi, pan fydd ar gael. |
|
(10:30) |
Papurau i'w nodi |
|
Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor a'r Pwyllgor Busnes - Memoranda cydsyniad deddfwriaethol Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth yn ymwneud â
memoranda cydsyniad deddfwriaethol. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd - y ddiweddaraf ar weithredu argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar Eiddo Gwag Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd yn ymwneud â gweithredu argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau ar Eiddo Gwag. |
||
Llythyr ar y cyd gan Cymorth Cymru a Chartrefi Cymunedol Cymru at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Cymorth Cymru a
Thai Cymunedol Cymru at y Gweinidog Cyllid yn ymwneud â chyllideb ddrafft
Llywodraeth Cymru 2023-24. |
||
(10.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cofnodion: 4.1. Derbyniodd y Pwyllgor gynnig i wahardd y cyhoedd o
weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 31 Ionawr 2023. |
|
(10.45 - 11.15) |
Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2 Cofnodion: 5.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law |
|
(11.15 - 11.45) |
Trafod yr adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1. Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft. |
|
(11.45 - 12.00) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am y flaenraglen waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1. Cytunodd y Pwyllgor ar ei flaenraglen waith ar gyfer
tymhorau’r gwanwyn a’r haf 2023. |
|
(12.00 - 12.15) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am waith yn ymwneud ag eiddo gwag Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1. Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am waith
yn ymwneud ag eiddo gwag. |
|
(12.15 - 12.30) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1. Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am
ddarparu cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin. |