Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Manon George
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/07/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a
Thai. |
|
(09.00 - 10.15) |
Ymchwiliad i asedau cymunedol – sesiwn dystiolaeth 4: Y Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Julie James AS, y
Gweinidog Newid Hinsawdd Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Richard Baker, Dirprwy
Gyfarwyddwr yr Is-adran Tir, Llywodraeth Cymru Judith Cole, Dirprwy
Gyfarwyddwr Polisi Cyllid Llywodraeth Leol a Cynaliadwyedd, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Richard Baker, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Tir
Llywodraeth Cymru Judith Cole, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Cyllid
Llywodraeth Leol a Chynaliadwyedd Llywodraeth Cymru 2.2. Yn ystod y
sesiwn dystiolaeth cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ddarparu: ·
rhagor o wybodaeth am yr ymarfer mapio ar draws y
Llywodraeth sy'n edrych ar bolisïau a rhaglenni sy'n ymwneud â chymunedau ·
copi o'r gwaith ymchwil ar werthoedd cymdeithasol gan
Cwmpas ·
rhagor o wybodaeth yn ymwneud â defnydd awdurdodau lleol
o’r cyllid sydd ar gael i gefnogi cymunedau. 2.3. Yn ystod y
sesiwn dystiolaeth cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i ddarparu: ·
nodyn ar yr ystod o gronfeydd sydd ar gael ar gyfer
asedau cymunedol ·
copi electronig o'r ohebiaeth â Cwmpas ·
manylion am y cynllun Hunanadeiladu Cymru ·
nodyn technegol yn ymwneud â dymchwel adeiladau
hanesyddol yng Nghaerdydd. |
|
(10.15) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: |
|
Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at bob Cadeirydd Pwyllgor mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid
at Gadeiryddion pob Pwyllgor mewn cysylltiad â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth
Cymru 2023-24. |
||
Cyflwyniad ysgrifenedig gan Cartrefi Cymunedol Cymru mewn perthynas â chartrefi i ffoaduriaid o Wcráin Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid
at Gadeiryddion pob Pwyllgor mewn cysylltiad â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth
Cymru 2023-24. |
||
(10.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1. Cytunodd y Pwyllgor â’r cynnig |
|
(10.30 - 11.15) |
Ymchwiliad i asedau cymunedol – trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2 a materion allweddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a’r
materion allweddol ar gyfer yr ymchwiliad. |
|
(11.15 - 12.00) |
Ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr – trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1. Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd
arno. |
|
(12.00 - 12.30) |
Trafod y flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref 2022 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1. Ystyriodd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a
chytunodd i fynd ar drywydd nifer o faterion yn nhymor yr hydref. |