Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Manon George
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/01/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a
Thai. 1.2. Cafwyd datganiadau o fuddiant perthnasol gan yr Aelodau a ganlyn: ·
Carolyn Thomas AS ·
Joel James AS |
|
(10.30 - 11.45) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: Sesiwn dystiolaeth 3 - y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James AS, y
Gweinidog Newid Hinsawdd Emma Williams, Cyfarwyddwr
Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru Amelia John, Dirprwy
Gyfarwyddwr Adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru Stuart Fitzgerald,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Cartrefi a Lleoedd, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth
Cymru Amelia John, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Tai, Llywodraeth
Cymru Stuart Fitzgerald, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cartrefi a
Lleoedd, Llywodraeth Cymru 2.2. Cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i gyflwyno
rhagor o wybodaeth am y materion a ganlyn: ·
y rhesymau pam mae llawer o rieni o
leiafrifoedd ethnig wedi nodi eu bod yn ddigartref i awdurdodau lleol; ·
amlinelliad o’r amserlen weithredu
ar gyfer Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) a, phan fydd ar gael, nodyn ar y gwersi
a ddysgwyd o’r ddeddfwriaeth. |
|
(11.45) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: |
|
Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru "Adolygiad Digartrefedd: Drws agored i newid cadarnhaol" Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd ynghylch yr adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,
"Adolygiad Digartrefedd: Drws agored i newid cadarnhaol". |
||
Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch materion tai a godwyd gan y Gymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl (NRLA) Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid
Hinsawdd ynghylch y materion tai a godwyd gan y Gymdeithas Genedlaethol
Landlordiaid Preswyl (NRLA). |
||
(11.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(11.45 - 12.00) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2 Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o
dan eitem 2. |
|
(12.00 - 12.15) |
Adolygiad y Pwyllgor Busnes o amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgorau Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1. Trafododd y Pwyllgor adolygiad y Pwyllgor Busnes o
amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgorau. |