Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Manon George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/02/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

 

1.2.      Cafwyd datganiad o fuddiant perthnasol gan Mabon ap Gwynfor AS.

 

(09.15 - 10.45)

2.

Ymchwiliad i ail gartrefi: sesiwn dystiolaeth 4 - economi

Suzy Davies, Cadeirydd, Cynghrair Twristiaeth Cymru

Daryl Mcintosh, Rheolwr Polisi, Propertymark

Shomik Panda, Cyfarwyddwr Cyffredinol, UK Short Term Accommodation Association

Sam Rees, Uwch Swyddog Materion Cyhoeddus – Cymru, RICS

David Chapman, Cyfarwyddwr Gweithredol dros Gymru, UK Hospitality Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:

Suzy Davies, Cadeirydd, Cynghrair Twristiaeth Cymru

Daryl Mcintosh, Rheolwr Polisi, Propertymark

Sam Rees, Uwch Swyddog Materion Cyhoeddus – RICS, Cymru

David Chapman, Cyfarwyddwr Gweithredol dros Gymru, UK Hospitality

Shomik Panda, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cymdeithas Llety Tymor Byr y DU

 

(10.45)

3.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

3.1

Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23.

 

(10.45)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

4.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.00 - 11.15)

5.

Ymchwiliad i ail gartrefi - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.

Cofnodion:

5.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.

 

(11.15 - 11.45)

6.

Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Diogelwch Adeiladau.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1. Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Diogelwch Adeiladau.

 

(11.45 - 12.15)

7.

Trafod y flaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1. Bu’r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith.

 

(12.15 - 12.30)

8.

Diweddariad ar Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1. Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.