Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Manon George
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/01/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1.
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i
gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. 1.2.
Datganodd yr Aelodau a ganlyn
fuddiannau perthnasol: ·
Carolyn Thomas AS; ·
Joel James AS; ·
Sam Rowlands AS. |
|
(09.00 - 10.00) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: Sesiwn dystiolaeth 1 –Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) Y Cynghorydd
Anthony Hunt, Arweinydd y Cyngor, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Y Cynghorydd
Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor, Cyngor Sir Caerfyrddin Y Cynghorydd
Richard John, Arweinydd y Cyngor, Cyngor Sir Mynwy Chris Llewelyn,
Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: Y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor, Cyngor
Bwrdeistref Sirol Torfaen Y Cynghorydd Richard John, Arweinydd Cyngor, Cyngor Sir
Fynwy Chris Llewelyn, Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru (CLlLC) |
|
(10.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 3.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(10.00 - 10.15) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(10.30 - 12.00) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23: Sesiwn dystiolaeth 2 - y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Rebecca Evans MS,
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Reg Kilpatrick,
Cyfarwyddwr Cyffredinol Cydgysylltu Argyfwng Covid-19, Llywodraeth Cymru Judith Cole, Dirprwy
Gyfarwyddwr Polisi Cyllid Llywodraeth Leol a Cynaliadwyedd, Llywodraeth Cymru Cofnodion: 5.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cydgysylltu
Argyfwng Covid-19, Llywodraeth Cymru Judith Cole, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Cyllid
Llywodraeth Leol a Chynaliadwyedd, Llywodraeth Cymru 5.2. Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i
ddarparu rhagor o wybodaeth am: ·
Y ffrydiau cyllid grant a sut y
caiff canlyniadau’r buddsoddiadau ariannu eu gwerthuso; ·
sut mae amcanion ar gyfer
llywodraeth leol yn cael eu pennu a sut mae canlyniadau cyflawni yn cael eu
gwerthuso yn erbyn yr amcanion (rhoddwyd enghraifft yn ystod y meysydd holi ar
gyfer gwasanaethau cymdeithasol a dywedodd y Gweinidog y byddai’n gofyn i’r
Gweinidog perthnasol, fodd bynnag roedd yr Aelod yn cyfeirio at lywodraeth leol
yn gyffredinol); ·
y polisi sy’n cyd-fynd â’r cyllid o
£60 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer diwygio yn y sector gofal; ·
y ffrwd ariannu a fydd yn darparu’r
£103 miliwn a ddyrannwyd i wario ar hylendid ac awyru mewn lleoliadau addysg
oherwydd pandemig Covid, gan gynnwys eglurder ynghylch a yw hwn yn gyllid
newydd neu a yw wedi cael ei ailgyfeirio o rywle arall oherwydd tanwariant; ·
uchelgeisiau ac amcanion rôl y Prif
Swyddog Digidol, ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod. |
|
(12.00) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: |
|
Llythyr at y Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r sector rhentu preifat yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr at y Gweinidog Newid
Hinsawdd mewn perthynas â'r sector rhentu preifat yng Nghymru. |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus at Brif Weithredwr Senedd Cymru mewn perthynas â’r defnydd o’r term BAME Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus at Brif Weithredwr Senedd
Cymru mewn perthynas â’r defnydd o’r term BAME. |
||
Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn perthynas â’r Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-Sefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn perthynas â’r Cytundeb
Cysylltiadau Rhyng-Sefydliadol rhwng Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru. |
||
Llythyr gan Shelter Cymru mewn perthynas â thai yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Shelter Cymru mewn
perthynas â thai yng Nghymru. |
||
Adroddiad gan Sefydliad Bevan: "A snapshot of poverty in Winter 2021" Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.5.a Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan Sefydliad Bevan:
“A snapshot of poverty in Winter 2021”. |
||
Llythyr gan CladDAG - Leaseholder Disability Action Group ynglŷn â diogelwch adeiladau Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.6.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan CladDAG –
Leaseholder Disability Action Group – ynglŷn â diogelwch
adeiladau. |
||
Llythyr gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynglŷn â digartrefedd Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.7.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Plant,
Pobl Ifanc ac Addysg mewn perthynas â digartrefedd. |
||
Llythyr gan y Pwyllgor Busnes ynglŷn â'r adolygiad o amserlenni a chylchoedd gwaith pwyllgorau Dogfennau ategol: Cofnodion: 6.8.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Busnes
mewn perthynas ag adolygiad o amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgorau. |
||
(12.00 - 12.15) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 6 Cofnodion: 7.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12.15 - 12.30) |
Adolygiad y Pwyllgor Busnes o amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgorau Cofnodion: 8.1. Trafododd y Pwyllgor adolygiad y Pwyllgor Busnes o
amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgorau. |