Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Manon George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/01/2025 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09.30

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

1.2 Croesawodd y Cadeirydd Peter Fox AS a Laura Anne Jones AS sydd wedi cymryd lle Altaf Hussain AS a James Evans AS fel Aelodau o'r Pwyllgor.

1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Laura Ann Jones AS.

1.4 Datganodd Siân Gwenllian AS fod dau aelod o'i theulu yn gweithio i gynghorau sir.

 

09.30 - 10.30

2.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26: Sesiwn dystiolaeth 1 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Y Cynghorydd Gary Pritchard, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Y Cynghorydd Jane Gebbie, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fel rhan o’i waith craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26.

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn am eu barn ar y fformiwla ariannu llywodraeth leol ac a oeddent yn dymuno gwneud unrhyw newidiadau i'r fformiwla ariannu.

 

10.30

3.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

3.1

Llythyr gan Community Leisure UK mewn perthynas â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1  Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.2

Llythyr gan Archwilio Cymru gyda gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod ar 14 Tachwedd 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.3

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â'r cynllun hawl i brynu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

3.4

Ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar y Sector Rhentu Preifat

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.4 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.

 

10.30

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1  Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

10.30 - 11.00

5.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26: Ystyried tystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.

 

11.00 - 11.15

6.

Darparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr: Crynodeb o waith ymgysylltu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y papur crynodeb ar y gwaith ymgysylltu.

 

11.15 - 11.25

7.

Rheoliadau'r cynllun peilot ar gyfer cofrestru etholiadol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y papur.