Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Manon George
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 30/03/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a
Thai. |
||
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Etholiadau Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol
a Gweinidog y Cyfansoddiad mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Etholiadau. |
||
Adroddiad gan y Sefydliad Bevan ar yr argyfwng tai yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.2.a Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan y Sefydliad
Bevan ar yr argyfwng tai yng Nghymru, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Newid Hinsawdd ynghylch y materion a godwyd. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 3.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(09.15 - 09.35) |
Ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr – trafod y gwaith ymgysylltu Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1. Trafododd y Pwyllgor ei ddull o gynnal gwaith
ymgysylltu mewn perthynas â’r ymchwiliad i ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn,
Roma a Theithwyr. |
|
(09.35 - 10.00) |
Trafod y flaenraglen waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1. Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith. |
|
(10.00 - 11.00) |
Ymchwiliad i ail gartrefi – trafod y prif faterion Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1. Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol ar gyfer
ei ymchwiliad i ail gartrefi. |