Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Manon George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/01/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

 

1.2.      Datganodd yr Aelodau a ganlyn fuddiannau perthnasol:

·         Mabon ap Gwynfor AS

·         Carolyn Thomas AS

·         Sam Rowlands AS

·         Joel James AS

 

(09.30 - 10.45)

2.

Ymchwiliad i ail gartrefi: sesiwn dystiolaeth 3 - llywodraeth leol

Y Cynghorydd Jano Williams, Cyngor Tref Trefdraeth

Y Cynghorydd Jeff Smith, Cyngor Tref Aberystwyth

Y Cynghorydd Rhys Tudur, Cyngor Tref Nefyn

Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Cyd-gadeirydd Fforwm Gwledig CLlLC a Chyd-lefarydd CLlLC ar Faterion Gwledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y canlynol:

·         Y Cynghorydd Jano Williams, Cyngor Tref Trefdraeth

·         Y Cynghorydd Jeff Smith, Cyngor Tref Aberystwyth

·         Y Cynghorydd Rhys Tudur, Cyngor Tref Nefyn

·         Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Cyd-gadeirydd Fforwm Gwledig CLlLC a Chyd-lefarydd CLlLC ar Faterion Gwledig

 

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

3.1

Llythyr gan Gyngor Gwynedd mewn perthynas ag ail gartrefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gyngor Gwynedd mewn perthynas ag ail gartrefi.

 

3.2

Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â'r Ddeiseb P-06-1204 Amddiffynnwch bobl Cymru - cymerwch gamau brys ar yr argyfwng tai nawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â'r Ddeiseb P-06-1204 Amddiffynnwch bobl Cymru - cymerwch gamau brys ar yr argyfwng tai nawr.

 

3.3

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 12 Ionawr 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 12 Ionawr 2022.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(10.50 - 11.00)

5.

Ymchwiliad i ail gartrefi - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2

Cofnodion:

5.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11.00 - 12.00)

6.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 - trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1. Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a chytunodd ar nifer o newidiadau.

 

7.

Trafod yr ymateb i adolygiad y Pwyllgor Busnes o amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgorau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1. Trafododd y Pwyllgor ei ymateb i adolygiad y Pwyllgor Busnes o amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgorau.

 

8.

Trafod y flaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1. Cytunodd y Pwyllgor i drafod y flaenraglen waith yn ei gyfarfod nesaf gan fod amser yn brin.