Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Robert Donovan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/05/2024 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r
cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Vikki Howells
AS drwy gydol y cyfarfod, a gan Hefin David AS ar gyfer eitemau 1,2 a 3. 1.3
Ni chafwyd dim datganiadau o
fuddiant. |
|
(09.30) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 2.1 Nododd y
Pwyllgor y papurau. |
|
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Rhestrau Sefydliadau) (Dirymu) 2023 Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i Fanc Datblygu Cymru Dogfennau ategol: |
||
Grŵp Rhyngweinidogol Bwyd a Materion Gwledig yr Amgylchedd Dogfennau ategol: |
||
Ardaloedd Draenio Dogfennau ategol: |
||
Craffu cyffredinol ar waith gweinidogion Dogfennau ategol: |
||
(09.30-10.15) |
Ymchwiliad: Economi Gwyrdd - Panel 5 - Cyllid Gwyrdd Kate McGavin,
Prif Swyddog Polisi a Strategaeth, Banc Seilwaith y DU Andy Regan,
Rheolwr Cenhadaeth, Cenhadaeth Dyfodol Cynaliadwy, Nesta Cofnodion: 3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y panel ar yr Economi Werdd. 3.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at y tystion i ofyn am ymatebion i'r cwestiynau nas
cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn. 3.3 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at Fanc Seilwaith y DU ynghylch cyfeiriadau a wnaed at
fodelau ariannu Awdurdodau Lleol, yn enwedig ynghylch prosiect Dinas Bryste. |
|
(10.25-11.25) |
Ymchwiliad: Economi Gwyrdd - Panel 6 - Astudiaeth achos Dafydd Gruffydd,
Rheolwr Gyfarwyddwr, Menter Môn Dr Debbie Jones,
Rheolwr Arloesi Carbon Isel, M-Sparc Robyn Lovelock,
Rheolwr Rhaglen y Cynllun Twf, Uchelgais Gogledd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y panel ar yr Economi Werdd. 4.2 Cytunodd
Menter Môn i ysgrifennu at y Pwyllgor i ddarparu gwybodaeth am faint o gyllid a
dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella’r llinellau cyflenwi caffael
cyhoeddus i ysgolion Gogledd Cymru, ac i ysgrifennu ynghylch y camau sy'n cael
eu cymryd i gael cynhyrchwyr garddwriaeth i gydweithio, gan gynnwys lefel yr
ymgysylltu â gwahanol arlwywyr/caffaelwyr bwyd ysgol |
|
(11.25) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y
cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. |
|
(11.25-11.35) |
Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod Cofnodion: 6.1 Trafododd yr
Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(11.35-11.50) |
Trafodaeth ar y flaenraglen gwaith Cofnodion: 7.1 Trafododd y
Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref 2024. |
|
(11.50-12.00) |
Presenoldeb Pwyllgor Sioe Frenhinol Cymru 2024 Cofnodion: 8.1 Cytunodd y
Pwyllgor ar ei ddull a'i bresenoldeb ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru 2024. |