Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/01/2024 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.20-10.30)

1.

Ymchwiliad: Yr Economi Werdd - papur cwmpasu

Cofnodion:

1.1     Trafododd y Pwyllgor y papur cwmpasu a chytuno arno.

 

(10.30)

2.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1     Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

2.2     Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AS a Buffy Williams AS. Roedd Jack Sargeant AS ac Alun Davies AS yn bresennol fel dirprwyon.

2.3     Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

 

(10.30)

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

3.1     Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

3.1

Cyfarfod o'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach

Dogfennau ategol:

3.2

Ymchwiliad i Lywodraethiant y DU a’r UE

Dogfennau ategol:

3.3

Craffu Cyffredinol ar Waith y Gweinidog – 13 Rhagfyr 2023

Dogfennau ategol:

3.4

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

(10.30-12.00)

4.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25: Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd

Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Llywodraeth Cymru

Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr, Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru

Richard Irvine, Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru

Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

4.2     Byddai’r Gweinidog yn darparu eglurder i’r Pwyllgor ar swm yr arian refeniw a ddarperir i Gyswllt Ffermio ar gyfer 2024-25 a fyddai’n dod o’r llinell wariant Cynlluniau Buddsoddi Gwledig yn y gyllideb.

4.2     Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda rhagor o wybodaeth am asesiadau effaith a wnaed i fesur effaith economaidd ffactorau macro-economaidd ehangach, fel chwyddiant, y rhyfel yn Wcrain, a dewisiadau polisi yn ymwneud â Brexit, ar ffermwyr Cymru.

4.3     Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor i ddarparu eglurder ar ffigurau’r gyllideb o ran toriadau i’r gyllideb ar gyfer pysgodfeydd.

 

(12.10-13.40)

5.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25: Gweinidog yr Economi

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, Llywodraeth Cymru

Jo Salway, Cyfarwyddwr, Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg, Llywodraeth Cymru

Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Economi.

5.2     Cytunodd Gweinidog yr Economi i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor a anfonwyd gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ddangos beth y mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio ei wneud o ran gradd-brentisiaethau.

5.3     Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor i amlinellu newidiadau posibl i amcanion a thargedau y gellid eu gosod ar gyfer cymorth busnes o ganlyniad i ostyngiadau o ran gwariant, ac i ddarparu gwybodaeth am ba gymorth y mae Busnes Cymru yn ei ddarparu ochr yn ochr â Banc Datblygu Cymru yn y maes cymorth busnes.

 

(13.40)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1     Derbyniwyd y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(13.40-13.50)

7.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25: Trafod y dystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

Cofnodion:

7.1     Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.