Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/11/2022 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.

1.3 Datganodd Samuel Kurtz AS ei fod yn gyfarwyddwr Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru. Datganodd Llyr Gruffydd ei fod yn aelod anrhydeddus o Gymdeithas Milfeddygon Prydain. Datganodd Sarah Murphy ei bod yn aelod o Goed Cadw. Datganodd Huw Irranca-Davies ei fod yn aelod anrhydeddus o Gymdeithas Milfeddygon Prydain ac yn un o Is-lywyddion Y Cerddwyr.

 

(09.30)

2.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

Dogfennau ategol:

2.2

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith

Dogfennau ategol:

(09.30-11.30)

3.

Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 10

Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

James Owen, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Diwygio Rheoli Tir

Hannah Fernandez, Prif Swyddog Polisi, Uned Ddiwygio Rheoli Tir

Dorian Brunt, Uwch Gyfreithiwr, Adran Gwasanaethau Cyfreithiol – Materion Gwledig

William (Bill) Cordingley, Cyfreithiwr y Llywodraeth, Adran Gwasanaethau Cyfreithiol – Bywyd Gwyllt

 

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. Bydd y Gweinidog yn darparu nodyn i’r Pwyllgor ar y defnydd o drapiau glud mewn lleoliadau cyhoeddus yng Nghymru gan gynnwys gwybodaeth am ysgolion, ysbytai a lleoliadau gofal iechyd eraill, yn ogystal â chan awdurdodau lleol a chontractwyr y GIG. Bydd y Gweinidog hefyd yn darparu nodyn ar aelodaeth y gweithgor ar dir comin.

 

(11.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.30-12.00)

5.

Preifat

Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

 

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law gan y Gweinidog a swyddogion Llywodraeth Cymru.