Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Robert Donovan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/10/2022 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AS. Nid oedd
dirprwy ar ei ran. 1.3 Dywedodd Samuel Kurtz AS ei fod yn un o gyfarwyddwyr
Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru. |
|
(09.30) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Dogfennau ategol: |
||
(09.30-11.30) |
Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 3 Arfon Williams,
Pennaeth Polisi Tir a Môr, RSPB Cymru Rhys Evans,
Arweinydd Ffermio Cynaliadwy Cymru, Rhwydwaith Ffermio Natur-Gyfeillgar Alexander
Phillips, Arbenigwr Polisi ac Eiriolaeth, WWF Cymru (yn cynrychioli Cyswllt
Amgylchedd Cymru) Dr Jonathan
Davies, Uwch Ecolegydd, Adfer Natur, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau
Brycheiniog Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan RSPB Cymru, y
Rhwydwaith Ffermio Er Lles Natur, Cyswllt Amgylchedd Cymru ac Awdurdod Parc
Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. 3.1 Bydd RSPB Cymru yn rhoi rhagor o wybodaeth i'r
Pwyllgor am gynigion ar gyfer lleihau cymorth pontio. 3.2 Bydd cynrychiolydd Cyswllt Cymru
yn rhoi mwy o wybodaeth i'r Pwyllgor ynghylch tynhau'r diffiniadau yn y Bil. |
|
(11.40-12.40) |
Bil Amaethyddiaeth (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 4 George Dunn, Prif Weithredwr, Cymdeithas y Ffermwyr
Tenant Andrew Tuddenham, Cynghorydd Defnydd Tir a Ffermio,
Ymddiriedolaeth Genedlaethol John Lloyd, aelod o'r Pwyllgor, Y Gymdeithas Ddefaid
Genedlaethol Eleanor Jarrold, Ysgrifennydd, Mynydd Eglwysilan Mynydd
Meio a Cymdeithas Cominwyr Craig Evan Leyshon Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas y
Ffermwyr Tenant, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cymdeithas Ddefaid
Genedlaethol Cymru a Chymdeithas Cominwyr Mynydd Eglwysilan, Mynydd Meio a
Chraig-Evan-Leyshon. |
|
(12.40) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.40-12.50) |
Preifat Trafod
tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod
y sesiynau blaenorol. |