Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Robert Donovan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/01/2024 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10.20-10.30) |
Ymchwiliad: Yr Economi Werdd - papur cwmpasu Cofnodion: 1.1 Trafododd y
Pwyllgor y papur cwmpasu a chytuno arno. |
|
(10.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1 Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. 2.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Hefin David AS a Buffy Williams AS. Roedd Jack Sargeant AS
ac Alun Davies AS yn bresennol fel dirprwyon. 2.3 Ni chafwyd
datganiadau o fuddiant. |
|
(10.30) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 3.1 Nododd y
Pwyllgor y papurau. |
|
Cyfarfod o'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i Lywodraethiant y DU a’r UE Dogfennau ategol: |
||
Craffu Cyffredinol ar Waith y Gweinidog – 13 Rhagfyr 2023 Dogfennau ategol: |
||
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 Dogfennau ategol: |
||
(10.30-12.00) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25: Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd Lesley Griffiths
AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Llywodraeth
Cymru Gian Marco
Currado, Cyfarwyddwr, Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru Richard Irvine,
Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru Dean Medcraft,
Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r
Trefnydd. 4.2 Byddai’r
Gweinidog yn darparu eglurder i’r Pwyllgor ar swm yr arian refeniw a ddarperir
i Gyswllt Ffermio ar gyfer 2024-25 a fyddai’n dod o’r llinell wariant
Cynlluniau Buddsoddi Gwledig yn y gyllideb. 4.2 Cytunodd y
Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda rhagor o wybodaeth am asesiadau
effaith a wnaed i fesur effaith economaidd ffactorau macro-economaidd ehangach,
fel chwyddiant, y rhyfel yn Wcrain, a dewisiadau polisi yn ymwneud â Brexit, ar
ffermwyr Cymru. 4.3 Cytunodd y
Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor i ddarparu eglurder ar ffigurau’r gyllideb
o ran toriadau i’r gyllideb ar gyfer pysgodfeydd. |
|
(12.10-13.40) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25: Gweinidog yr Economi Vaughan Gething
AS, Gweinidog yr Economi, Llywodraeth Cymru Jo Salway,
Cyfarwyddwr, Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg, Llywodraeth
Cymru Dean Medcraft,
Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Economi. 5.2 Cytunodd
Gweinidog yr Economi i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor a anfonwyd gan Weinidog y
Gymraeg ac Addysg at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ddangos beth y
mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio ei wneud o ran gradd-brentisiaethau. 5.3 Cytunodd y
Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor i amlinellu newidiadau posibl i amcanion a
thargedau y gellid eu gosod ar gyfer cymorth busnes o ganlyniad i ostyngiadau o
ran gwariant, ac i ddarparu gwybodaeth am ba gymorth y mae Busnes Cymru yn ei
ddarparu ochr yn ochr â Banc Datblygu Cymru yn y maes cymorth busnes. |
|
(13.40) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y
cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. |
|
(13.40-13.50) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25: Trafod y dystiolaeth yn dilyn y cyfarfod Cofnodion: 7.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |