Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfeirnod: Hybrid
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/07/2024 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00-09.10) |
Blaenraglen Waith Papur 1-
Blaenraglen waith Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei raglen waith ar gyfer tymor
yr hydref. |
|
(09.10-09.20) |
Adroddiad monitro amseroedd aros y GIG Papur 2 -
Adroddiad monitro amseroedd aros y GIG Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y pwyntiau gweithredu a nodwyd
yn yr adroddiad. |
|
(09.20-09.30) |
Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru – Craffu Cyffredinol: trafod yr adroddiad drafft Papur 3 –
adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad, yn amodol ar fân
newidiadau. |
|
(09.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 4.1 Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i'r
cyfarfod. 4.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Russell George AS. Roedd
Altaf Hussain AS yn bresennol fel dirprwy. 4.3 Datganodd Mabon ap Gwynfor fod ei wraig yn gweithio i
elusen yn y sector dan sylw. |
|
(09.30-11.00) |
Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol Dawn Bowden AS, y
Gweinidog Gofal Cymdeithasol Alistair Davey,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Galluogi Pobl, y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru – Llywodraeth Cymru Chloe Marong, Cyfreithiwr
– Llywodraeth Cymru Briff Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog
Gwasanaethau Cymdeithasol. 5.2 Cytunodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol i ofyn i
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ysgrifennu at y
Pwyllgor er mwyn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o'r fframwaith
presennol ar gyfer gofal iechyd parhaus. |
|
(11.10-12.10) |
Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): sesiwn dystiolaeth gydag Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru Gillian Baranski, Prif Arolygydd – Arolygiaeth Gofal Cymru Margaret Rooney, Dirprwy Brif Arolygydd –
Arolygiaeth Gofal Cymru Sue Evans, Prif Weithredwr – Gofal Cymdeithasol Cymru Briff Ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o
Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru. |
|
(12.10) |
Papurau i'w nodi |
|
Ymateb dilynol gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru i Gadeiryddion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynghylch yr adroddiad a gyhoeddwyd ar y cyd gan y pwyllgorau yn 2023, sef Craffu ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1 Nododd y Pwyllgor yr ymateb dilynol. |
||
Ymateb gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.2 Nododd y Pwyllgor yr ymateb. |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd ynghylch amserlen cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
||
Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet ynghylch amserlen cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.4 Nododd y Pwyllgor yr ymateb. |
||
(12.10) |
Cynnig i benodi Cadeirydd dros dro hyd at y cyfarfod cyntaf yn nhymor yr hydref yn unol â Rheol Sefydlog 17.22 Cofnodion: 8.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(12.10) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a'r cyfarfod ar 26 Medi 2024, ar gyfer digwyddiad i randdeiliaid a gaiff ei gynnal fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i feddygaeth deulu; a'r cyfarfod ar 9 Hydref, ar gyfer digwyddiad i randdeiliaid a gaiff ei gynnal fel rhan o Faes o Ddidordeb Ymchwil cyhoeddedig y Pwyllgor ar arloesi ar gyfer gwella mewn gofal iechyd Cofnodion: 9.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(12.10-12.30) |
Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): trafod y dystiolaeth a materion sy'n dod i'r amlwg Cofnodion: 10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a
materion sy’n dod i’r amlwg, i’w cynnwys yn yr adroddiad. |