Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Helen Finlayson 

Amseriad disgwyliedig: Hybrid 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/02/2022 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Datganodd Gareth Davies AS ei fod yn aelod o Gyngor Sir Ddinbych tan fis Mai 2022.

 

(09.30-10.30)

2.

Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai: sesiwn dystiolaeth gydag awdurdodau lleol

Nicola Stubbins, cyn-Lywydd Bwrdd Llywodraethu ADSS Cymru a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych

Y Cynghorydd Susan Elsmore, Dirprwy Lefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Llesiant

Allison Hulmes, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymru - Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain


Briff ymchwil

Papur 1 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Papur 2 – Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr awdurdodau lleol.

 

(10.45-11.30)

3.

Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai: sesiwn dystiolaeth gyda Fforwm Gofal Cymru

Mary Wimbury, Prif Weithredwr - Fforwm Gofal Cymru

Mario Kreft, Cadeirydd - Fforwm Gofal Cymru

Sanjiv Joshi, Trysorydd - Fforwm Gofal Cymru


Papur 3 –Fforwm Gofal Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Fforwm Gofal Cymru.

 

(11.30)

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor yr ymateb.

 

(11.30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 6, 8, 9 a 10 y cyfarfod heddiw.

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(11.30-11.45)

6.

Rhyddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

(12.30-14.45)

7.

Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru sy’n aros am ddiagnosis neu driniaeth a Chraffu ar Gynllun Gaeaf Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru 2021 i 2022: sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru – Llywodraeth Cymru

Andrew Sallows, Cyfarwyddwr Rhaglen Gyflawni - Llywodraeth Cymru

Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol - Llywodraeth Cymru


Briff ymchwil

Papur 4 – Llywodraeth Cymru ar amseroedd aros

Papur 5 – Llywodraeth Cymru ar gynlluniau’r gaeaf 

Papur 6 – adroddiad gan Dîm Ymgysylltu â Dinasyddion y Senedd ar effaith yr ôl-groniad o amseroedd aros ar bobl yng Nghymru sy’n disgwyl diagnosis neu driniaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
7.2 Cytunodd Judith Paget i rannu gwybodaeth am gapasiti llawfeddygol y byrddau iechyd â’r Pwyllgor.

7.3 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu canfyddiadau’r adolygiad o gapasiti gwasanaethau niwroddatblygiadol a’r galw amdanynt â’r Pwyllgor maes o law.

7.4 Cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y defnydd o basiau COVID.

 

(14.45-15.00)

8.

Effaith yr ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru sy’n aros am ddiagnosis neu driniaeth a Chraffu ar Gynllun Gaeaf Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru 2021 i 2022: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. Nododd y Pwyllgor feysydd i’w cynnwys yn ei adroddiad ar amseroedd aros, a chytunwyd i ysgrifennu ar wahân at y Gweinidog ynghylch cynllunio ar gyfer y gaeaf.

 

(15.00-15.15)

9.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau: trafod yr adroddiad drafft

Papur 7 – adroddiad drafft

Tystiolaeth ysgrifenedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân ddiwygiadau.

 

(15.15-15.30)

10.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal: trafod yr adroddiad drafft

Papur 8 – adroddiad drafft

Papur 9 – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2)
ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal
Papur 10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3)
ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal
Papur 11 – nodyn cyngor cyfreithiol ar gyfer y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2)
ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal
Papur 12 nodyn cyngor cyfreithiol ar gyfer y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3)
ar gyfer y Bil Iechyd a Gofal

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân ddiwygiadau.