Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/03/2024 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 1.2 Nododd y
Cadeirydd y byddai Ken Skates AS a Laura Jones AS yn ymuno â'r cyfarfod yn
hwyr, ac y byddai angen i James Evans AS adael y cyfarfod yn gynnar a'i fod
wedi anfon ymddiheuriadau na fyddai’n bresennol o 11.00 ymlaen. |
|
(09.15 - 10.15) |
Arolygiaeth Gofal Cymru: Craffu blynyddol Gillian Baranski,
Prif Arolygydd, Arolygiaeth Gofal Cymru Vicky Poole,
Dirprwy Brif Arolygydd, Arolygiaeth Gofal Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Bu’r Pwyllgor
yn craffu ar waith Arolygiaeth Gofal Cymru. 2.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at Arolygiaeth Gofal Cymru er mwyn gofyn rhai cwestiynau
penodol ar gyfer yr ymchwiliad i Blant a Phobl Ifanc sydd ar yr ymylon. 2.3 Cytunodd
Arolygiaeth Gofal Cymru i ddarparu nodyn ar yr adroddiad a gyhoeddwyd ynghylch
yr arolygiadau o gartref plant Tŷ
Cariad. |
|
(10.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 4 ac eitem 8 o’r cyfarfod Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
|
(10.15 - 10.20) |
Arolygiaeth Gofal Cymru: Craffu blynyddol – trafod y dystiolaeth Cofnodion: 4.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn y sesiwn flaenorol. |
|
(10.30 - 11.30) |
Gweithredu diwygiadau addysg – sesiwn dystiolaeth Y Barnwr Jane
McConnell, Llywydd Tribiwnlys Addysg Cymru Rhian Davies-Rees,
Pennaeth Uned Tribiwnlysoedd Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Barnwr Jane McConnell. |
|
(11.35 - 12.25) |
Sesiwn graffu gyda Gofal Cymdeithasol Cymru Sue Evans, Prif
Weithredwr, Gofal Cymdeithasol Cymru Sarah McCarty,
Cyfarwyddwr Gweithredol Gwella a Datblygu, Gofal Cymdeithasol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Bu’r Pwyllgor
yn craffu ar waith Gofal Cymdeithasol Cymru. 6.2 Cytunodd
Gofal Cymdeithasol Cymru i ddarparu'r canlynol: - pan fyddant yn
cael eu cyhoeddi, y ffigurau diweddaraf o ran swyddi gweithwyr cymdeithasol
sy’n wag a; - dadansoddiad o
broffiliau oedran y rhai sy’n dilyn y cwrs ymarferydd gwasanaethau
cymdeithasol. |
|
(12.25) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 7.1 Cafodd y
papurau eu nodi. 7.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg er mwyn nodi’r materion a
godwyd yn y llythyr oddi wrth gorff Prifysgolion Cymru. |
|
Y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth gan randdeiliaid Dogfennau ategol: |
||
Gwaith craffu cyffredinol ar waith Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth gan randdeiliaid Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth gan randdeiliaid Dogfennau ategol: |
||
Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal: trafod diwygio radical Dogfennau ategol: |
||
Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal: trafod diwygio radical Dogfennau ategol: |
||
Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal: trafod diwygio radical Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth gan randdeiliaid Dogfennau ategol: |
||
Gweithredu diwygiadau addysg Dogfennau ategol: |
||
A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? Dogfennau ategol: |
||
Gwaith craffu blynyddol ar waith Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Dogfennau ategol: |
||
(12.25 - 12.30) |
Trafod y dystiolaeth a gafwyd yn y sesiynau tystiolaeth blaenorol Cofnodion: 8.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol. 8.2 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg er mwyn gofyn cwestiynau
dilynol ynglŷn
â rhywfaint o’r dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn
ar weithredu diwygiadau addysg. |