Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 05/07/2023 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau. Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau. 1.3 Croesawodd y Llywydd Heledd Fychan AS i’r Pwyllgor
Busnes a diolchodd i Sioned Willilams am ei chyfraniad gwerthfawr at waith y
Pwyllgor dros y ddwy flynedd diwethaf. |
|
(09.15) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Blaenraglen Waith Dogfennau ategol: |
||
Gweithredu diwygiadau addysg Dogfennau ategol: |
||
Gwrandawiad cyn penodi ar gyfer Prif Weithredwr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Dogfennau ategol: |
||
A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? Dogfennau ategol: |
||
A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? Dogfennau ategol: |
||
Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 Dogfennau ategol: |
||
Blaenraglen Waith Dogfennau ategol: |
||
Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 Dogfennau ategol: |
||
Gwasanaethau i blant sydd â phrofiad o ofal: archwilio diwygio radical Dogfennau ategol: |
||
A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? . Dogfennau ategol: |
||
A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant? Dogfennau ategol: |
||
Gwybodaeth gan Randdeiliaid Dogfennau ategol: |
||
Gweithredu diwygiadau addysg Dogfennau ategol: |
||
Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical Dogfennau ategol: |
||
Craffu cyffredinol ar waith Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Dogfennau ategol: |
||
(09.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 4, eitem 7 ac eitem 9 ar agenda’r cyfarfod hwn. Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(09.15 - 10.15) |
Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith. Cytunodd
yr aelodau ar y canlynol: - ysgrifennu at y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidogion
perthnasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y Dull Ysgol Gyfan o ymdrin ag
Iechyd Meddwl a’r gwaith dilynol ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion. - yn amodol ar y
wybodaeth yn yr ohebiaeth a geir gan y
Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, ymateb gan ofyn am ragor o
wybodaeth am y ddarpariaeth ar gyfer unedau
mamau a babanod yng Nghymru. - ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
ynghylch y defnydd o e-sigaréts ymhlith plant a phobl ifanc. - trafod cwmpas y gwaith cysylltiedig ag ymchwiliad i
droseddoli plant a phobl ifanc |
|
(10.15 - 10.30) |
Trafod y dull gweithredu o ran sesiwn cynllunio strategol y Pwyllgor Cofnodion: 5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y modd y byddai’n ymdrin â’r
sesiwn cynllunio strategol nesaf a gaiff ei chynnal ar 14 Medi. |
|
(10.30 - 10.40) |
Gweithredu diwygiadau addysg - ystyried canlyniad y broses gysylltu yn yr haf 2023 Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y sesiwn ddiweddaraf a
gynhaliwyd fis Ebrill/Mai. 6.2 Cytunodd yr Aelodau ar y llythyr drafft at Weinidog y
Gymraeg ac Addysg. |
|
(10.40 - 10.50) |
Diweddariad ar weithgareddau'r Pwyllgor Cofnodion: 7.1 Rhoddodd yr Aelodau’r wybodaeth lafar ddiweddaraf a
gafwyd am waith y Pwyllgor yn ystod y tymor. 7.2 Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r
Aelodau am y cyfarfodydd a ganlyn a gynhaliwyd: - Cyfarfodydd gweinidogol bob deufis - Digwyddiad CLASS Cymru - Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol Aberhonddu ac Abertawe - Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil - Y Dirprwy Weinidog - Deddfwriaeth Amgylchedd Bwyd Iach - Tîm EYST - Cynghrair Gordewdra Cymru - Fforwm y Cadeiryddion 7.3 Clywodd y Pwyllgor am yr ymweliadau ag ysgolion a
gynhaliwyd yn ddiweddar fel rhan o’i ymchwiliad, sef ‘A yw plant a phobl ifanc
anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?’ |
|
(11.00 - 12.25) |
Sesiwn graffu ar y cyd gyda Gweinidogion ar addysg a sgiliau ôl-16 Jeremy Miles AS,
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Vaughan Gething
AS, Gweinidog yr Economi Jo Salway, Cyfarwyddwr
Gyfarwyddiaeth Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg, Llywodraeth
Cymru James Owen, Cyfarwyddwr
y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, Llywodraeth Cymru Abigail Philips, Pennaeth
Arloesi, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Gweinidog y Gymraeg ac
Addysg a gwaith Gweinidog yr Economi. 8.2 Cytunodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i roi
ystadegau i’r Pwyllgor ar lefel y cysylltiad rhwng Gyrfa Cymru a phobl ifanc ag
anghenion dysgu ychwanegol. 8.3 Cytunodd Gweinidog yr Economi i baratoi nodyn ar
gyfer y Pwyllgor ar ehangu gradd-brentisiaethau. |
|
(12.25 - 12.30) |
Sesiwn graffu ar y cyd gyda Gweinidogion - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn ystod
y sesiwn dystiolaeth flaenorol. |