Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/10/2022 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS.
Dirprwyodd Jenny Rathbone AS ar ei rhan. 1.3 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Sioned Williams
AS fod ei gŵr yn Athro a’i fod yn cael ei gyflogi gan Brifysgol Abertawe. |
|
(09.15 - 10.15) |
Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch: sesiwn dystiolaeth 1 Orla Tarn,
Llywydd UCM Cymru Joe Atkinson,
Ymgynghorydd y Wasg a Materion Cyhoeddus, UCM Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan UCM Cymru. 2.2 Cytunodd UCM Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am
unrhyw waith sydd wedi cael ei wneud ynghylch ceisio tanseilio'r diwylliant o
oryfed a data pellach ar swyddi rhan amser sydd ar gael i fyfyrwyr yng Nghymru
i gynyddu eu hincwm. |
|
(10.25 - 11.25) |
Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch - sesiwn dystiolaeth 2 Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a Chadeirydd
Prifysgolion Cymru Ben Calvert, Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru ac
yn cynrychioli Prifysgolion Cymru Sophie Douglas, Ymgynghorydd Polisi, Prifysgolion
Cymru Tom Snelgrove,
Cyfarwyddwr Profiad y Dysgwr, Coleg Sir Gâr ac yn cynrychioli Colegau
Cymru Ceri Wilcock, Dirprwy Gyfarwyddwr Profiad Myfyrwyr, Y Brifysgol
Agored yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan GolegauCymru,
Prifysgolion Cymru a'r Brifysgol Agored. 3.2 Cytunodd y Prifysgolion Cymru i ddarparu rhagor o
wybodaeth am y materion a ganlyn: - cyfraddau hunanladdiad ac a yw’r rhain wedi gostwng am
fod myfyrwyr yn fwy parod i ddatgelu eu trallod meddwl; - sylw pellach ar y cyngor a gyhoeddwyd gan Brifysgolion
y DU gyda’r nod o atal hunanladdiad trwy gysylltu â chysylltiadau allweddol
myfyrwyr ac a oes angen cyllid ychwanegol i gefnogi’r gwaith hwn; ac - mewn perthynas â'r argyfwng costau byw, darparu
enghreifftiau o “sut mae costau'n cynyddu’n aruthrol”. |
|
(11.25) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 4.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Cyllideb Llywodraeth Cymru 2023-24 Dogfennau ategol: |
||
Cyllideb Llywodraeth Cymru 2023-24 Dogfennau ategol: |
||
Blaenraglen Waith Dogfennau ategol: |
||
Blaenraglen Waith Dogfennau ategol: |
||
Blaenraglen Waith Dogfennau ategol: |
||
Blaenraglen Waith Dogfennau ategol: |
||
Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr Dogfennau ategol: |
||
Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr Dogfennau ategol: |
||
Cyfres arholiadau'r haf 2022 Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc [y Bumed Senedd] Dogfennau ategol: |
||
Rhoi diwygiadau addysg ar waith Dogfennau ategol: |
||
Gweithredu diwygiadau addysg Dogfennau ategol: |
||
Cyllideb Llywodraeth Cymru 2023-24 Dogfennau ategol: |
||
Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr Dogfennau ategol: |
||
(11.25) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.25 - 11.30) |
Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn ystod
y sesiynau blaenorol. |
|
(11.35 - 12.00) |
Absenoldeb disgyblion - trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 7.1 Yn amodol ar newidiadau i’w cytuno’n electronig y tu
allan i’r cyfarfod Pwyllgor, cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft. |
|
(12.00 -12.15) |
Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2023 - 2024 – trafod y dull o weithredu Cofnodion: 8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull o weithredu ar gyfer
y gyllideb ddrafft. |
|
(12.15 - 12.25) |
Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - trafod ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru a
chytunwyd i ofyn am farn rhanddeiliaid cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar
adroddiad y Pwyllgor ar 26 Hydref 2022. |
|
(12.25 - 12.40) |
Rhoi diwygiadau addysg ar waith - trafod y llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg Cofnodion: 10.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr a chytunwyd i ofyn am
farn rhanddeiliaid. |