Cyfres arholiadau'r Haf 2022

Cyfres arholiadau'r Haf 2022

A picture containing person, floor, table, dining table

Description automatically generated

 

Trwy gydol haf 2022 bu'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn monitro'r gyfres o arholiadau.

 

Ym mis Gorffennaf 2022 gwnaethom ysgrifennu at Gymwysterau Cymru (PDF 145KB) a CBAC (PDF 143KB) i holi am bryderon a leisiwyd i ni gan aelod o'r cyhoedd, a materion eraill sy'n cael eu hadrodd yn y cyfryngau (megis rhannau ar goll mewn arholiadau neu gwestiynau afresymol o anodd).

 

Ar 14 Gorffennaf 2022 aeth y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg gerbron y Pwyllgor, bu'r Aelodau'n gofyn cwestiynau am gyfres arholiadau'r haf. Mae trawsgrifiad o'r cyfarfod ar gael.

 

Ymddangosodd Cymwysterau Cymru a CBAC gerbron y Pwyllgor ar 21 Medi 2022 i roi tystiolaeth am arholiadau'r haf. Yn dilyn y sesiwn, ysgrifennodd (PDF 338KB) y Pwyllgor at Cymwysterau Cymru a chafwyd ymateb (PDF 237KB).  

 

Mae trawsgrifiad o'r cyfarfod ar gael.

 

Bydd y Pwyllgor yn parhau i gadw llygad ar arholiadau ac asesiadau wrth i ni bontio at ffyrdd o asesu dysgwyr yn yr un modd â chyn y pandemig.

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/08/2022

Dogfennau