Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/05/2022 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(08.45 - 09.00)

Rhag-gyfarfod preifat

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.2 Nododd y Cadeirydd y byddai Heledd Fychan AS yn dirprwyo ar ran Sioned Williams AS ar gyfer yr holl fusnes sy’n ymwneud â'r ymchwiliad i absenoldeb disgyblion, sef eitem 6 yn y cyfarfod hwn.

 

(09.00 - 10.15)

2.

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 13

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Kirsty Davies-Warner, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Tegwch mewn Addysg, Llywodraeth Cymru

Sian Jones, Pennaeth Cefnogi Cyflawniad a Diogelu, Llywodraeth Cymru

 

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Zsanett Swain, Uwch-reolwr Polisi Trais yn erbyn Menywod a Cam-drin Domestig, Llywodraeth Cymru

Emily Keoghane, Pennaeth Polisi LHDTC+, Llywodraeth Cymru

Alessandro Ceccarelli, Pennaeth Polisi LHDTC+, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i roi mwy o wybodaeth i'r Pwyllgor am ganfyddiadau adolygiad 2019 o’r rhaglen yr Heddlu mewn Ysgolion.

 

(10.15)

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

 

3.1 Cafodd y papurau eu nodi.

3.1

Absenoldeb disgyblion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg

 

 

3.2

Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

 Llythyr gan Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Awtistiaeth

 

 

(10.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.15 - 10.30)

Egwyl

(10.30 - 11.30)

5.

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr – trafod y dystiolaeth a materion allweddol

Cofnodion:

 

5.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol.

(11.30 - 12.00)

6.

Absenoldeb disgyblion – trafod y dull o gynnal yr ymchwiliad

Cofnodion:

 

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y dull gweithredu ar gyfer yr ymchwiliad i absenoldeb disgyblion, yn amodol ar rai rhanddeiliaid ychwanegol i roi tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig a pheth gwybodaeth bellach am feysydd penodol.