Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/12/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

 

1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.

 

1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS, dirprwyodd Mike Hedges AS ar ei rhan. Fel y cytunwyd, roedd Sioned Williams AS yn dirprwyo ar ran Sian Gwenllian AS ar gyfer y cyfarfod hwn.

 

1.4 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Sioned Williams AS fod ei gŵr yn cael ei gyflogi gan Brifysgol Abertawe ai fod yn Aelod o UCU ac yn gymrawd o'r Gymdeithas Ddysgedig.

 

(09.15 - 10.15)

2.

Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 7

Jeff Protheroe, Cyfarwyddwr Gweithrediadau - Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru

Arwyn Watkins OBE, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian ac Aelod o’r Bwrdd - Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru

Kathryn Robson, Prif Weithredwr - Addysg Oedolion Cymru

John Graystone, Cadeirydd - Addysg Oedolion Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru ac Addysg Oedolion Cymru.

 

2.2 Datganodd John Graystone o Addysg Oedolion Cymru ei fod yn Aelod o Gyngor CCAUC ac yn Llywodraethwr Coleg AB.

 

2.3 Cytunodd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru i ddarparu union nifer y prentisiaethau uwch lefel 4 a 5 a ddarperir ar hyn o bryd.

 

 

(10.25 - 11.25)

3.

Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 8

David Notley, Cyd-Gadeirydd - Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi (CCCA)
Yr Athro Hywel Thomas, Llywydd - Cymdeithas Ddysgedig

Yr Athro Helen Fulton, Is-lywydd y Dyniaethau, y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol - Cymdeithas Ddysgedig

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Cyngor Cynghori Cymru ar Arloesi (CCCA) a'r Gymdeithas Ddysgedig.

 

(12.30 - 13.30)

4.

Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 9

Alastair Delaney, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Dirprwy Brif Weithredwr - Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch

James Harrison, Swyddog Polisi - Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch

David Gale, Rheolwr Sicrwydd Ansawdd, Cymru - Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch

Jassa Scott, Cyfarwyddwr Strategol – Estyn

Jackie Gapper, Cyfarwyddwr Cynorthwyol - Estyn

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch ac Estyn.

 

(13.35 - 14.05)

5.

Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 10

Mary van den Heuvel, Uwch-swyddog Polisi - Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU)

Rebecca Williams, Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol - Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)

Jamie Insole, Swyddog Polisi – Undeb Prifysgolion a Cholegau

Lynne Hackett, Trefnydd Rhanbarthol, Arweinydd Addysg Bellach ac Uwch - UNSAIN Cymru

Neil Butler, Swyddogol Cenedlaethol (Cymru) - NASUWT

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r undebau llafur.

 

(14.05)

6.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

6.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

6.1

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru

Dogfennau ategol:

6.2

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru

Dogfennau ategol:

6.3

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

Dogfennau ategol:

6.4

Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

Dogfennau ategol:

6.5

Dylid ymestyn y fwrsariaeth STEMM ôl-raddedig i bob myfyriwr MSc yng Nghymru

Dogfennau ategol:

(14.05)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.05 - 14.15)

8.

Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn y sesiynau tystiolaeth blaenorol.

 

(14.15 - 14.20)

9.

Cyflwyniad ar broses gwrandawiadau cyn penodi

Cofnodion:

9.1 Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad ar y broses gwrandawiad cyn penodi.