Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/12/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg 1.2 Yn unol
â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y
cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond bod y
cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv. 1.3 Ni
chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Nododd y
Cadeirydd y byddai Sioned Williams AS yn dirprwyo ar ran Siân Gwenllian AS ar
gyfer eitemau 5 i 11. |
|
(09.00 - 10.15) |
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Cymwysterau Cymru ar gyfer 2020 – 2021 David Jones,
Cadeirydd – Cymwysterau Cymru Philip Blaker,
Prif Weithredwr – Cymwysterau Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Cymwysterau Cymru ar ei
adroddiad blynyddol. |
|
(10.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem nesaf Cofnodion: 3.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.15 - 10.20) |
Craffu ar Adroddiad Blynyddol Cymwysterau Cymru ar gyfer 2020 - 2021 – trafod y dystiolaeth Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod
y sesiwn flaenorol. |
|
(10.30 - 11.30) |
Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 3 Yr Athro
Elizabeth Treasure, Cadeirydd Prifysgolion Cymru ac Is-Ganghellor Prifysgol
Aberystwyth Marian Wyn Jones,
Cadeirydd Cadeiryddion Prifysgolion Cymru Louise Casella,
Cyfarwyddwr - Y Brifysgol Agored yng Nghymru Cerith Rhys
Jones, Rheolwr Materion Allanol - Y Brifysgol Agored yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr
Prifysgolion Cymru, Cadeiryddion Prifysgolion Cymru a'r Brifysgol Agored. 5.2 Cytunodd Prifysgolion Cymru i ddarparu gwybodaeth
bellach ar: - sut mae Cytundebau Canlyniadau wedi gweithio mewn gwledydd
eraill; - yr 'eithriadau' yn y Bil i Weinidogion Cymru ddarparu
cyllid a chyfarwyddyd ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg; - trefniadau llywodraethu yn y prifysgolion a diogelu
dysgwyr; - effaith bosibl Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig
2020 ar weithredu'r Bil. |
|
(11.35 - 12.35) |
Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 4 Guy Lacey,
Cadeirydd ColegauCymru a'r Prif Swyddog Gweithredol - Coleg Gwent Dafydd Evans,
Prif Swyddog Gweithredol Grŵp
Llandrillo Menai a chynrychioli ColegauCymru Rachel Bowen,
Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus – ColegauCymru Sharon Davies,
Pennaeth Addysg - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr
ColegauCymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. |
|
(13.30 - 14.15) |
Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 5 Becky
Ricketts, Llywydd - Undeb
Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru Joe Atkinson,
Ymgynghorydd y Wasg a Materion Cyhoeddus - Undeb
Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr UMC
Cymru. |
|
(14.20 - 15.20) |
Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 6 Aled Roberts,
Comisiynydd y Gymraeg Ioan Matthew,
Prif Weithredwr – y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Gwenllian
Griffiths, Prif Swyddog Ymgysylltu – y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd y
Gymraeg a chynrychiolwyr o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 8.2 Datganodd
Comisiynydd y Gymraeg fod ei wraig yn gweithio yn y sector AB a’i bod yn
Gadeirydd dros dro ar hyn o bryd ar y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. |
|
(15.20) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 9.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 Dogfennau ategol: |
||
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol Dogfennau ategol: |
||
Hyfforddiant Pwyllgor Dogfennau ategol: |
||
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 Dogfennau ategol: |
||
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 Dogfennau ategol: |
||
Craffu cyffredinol ar waith y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: |
||
Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) Dogfennau ategol: |
||
(15.20) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 10.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(15.20 - 15.30) |
Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law yn y sesiwn flaenorol Cofnodion: 11.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod
y sesiwn flaenorol. |