Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 06/10/2022 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS. Dirprwyodd Jenny Rathbone AS ar ei rhan.

1.3 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Sioned Williams AS fod ei gŵr yn Athro ai fod yn cael ei gyflogi gan Brifysgol Abertawe.

 

(09.15 - 10.15)

2.

Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch: sesiwn dystiolaeth 1

Orla Tarn, Llywydd UCM Cymru

Joe Atkinson, Ymgynghorydd y Wasg a Materion Cyhoeddus, UCM Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan UCM Cymru.

2.2 Cytunodd UCM Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am unrhyw waith sydd wedi cael ei wneud ynghylch ceisio tanseilio'r diwylliant o oryfed a data pellach ar swyddi rhan amser sydd ar gael i fyfyrwyr yng Nghymru i gynyddu eu hincwm.

 

 

(10.25 - 11.25)

3.

Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch - sesiwn dystiolaeth 2

Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a Chadeirydd Prifysgolion Cymru

Ben Calvert, Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru ac yn cynrychioli Prifysgolion Cymru

Sophie Douglas, Ymgynghorydd Polisi, Prifysgolion Cymru

Tom Snelgrove, Cyfarwyddwr Profiad y Dysgwr, Coleg Sir Gâr ac yn cynrychioli Colegau Cymru

Ceri Wilcock, Dirprwy Gyfarwyddwr Profiad Myfyrwyr, Y Brifysgol Agored yng Nghymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan GolegauCymru, Prifysgolion Cymru a'r Brifysgol Agored.

3.2 Cytunodd y Prifysgolion Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am y materion a ganlyn:

- cyfraddau hunanladdiad ac a yw’r rhain wedi gostwng am fod myfyrwyr yn fwy parod i ddatgelu eu trallod meddwl;

- sylw pellach ar y cyngor a gyhoeddwyd gan Brifysgolion y DU gyda’r nod o atal hunanladdiad trwy gysylltu â chysylltiadau allweddol myfyrwyr ac a oes angen cyllid ychwanegol i gefnogi’r gwaith hwn; ac

- mewn perthynas â'r argyfwng costau byw, darparu enghreifftiau o “sut mae costau'n cynyddu’n aruthrol”.

 

(11.25)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

 

4.1

Cyllideb Llywodraeth Cymru 2023-24

Dogfennau ategol:

4.2

Cyllideb Llywodraeth Cymru 2023-24

Dogfennau ategol:

4.3

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

4.4

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

4.5

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

4.6

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

4.7

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr

Dogfennau ategol:

4.8

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr

Dogfennau ategol:

4.9

Cyfres arholiadau'r haf 2022

Dogfennau ategol:

4.10

Ymchwiliad i weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc [y Bumed Senedd]

Dogfennau ategol:

4.11

Rhoi diwygiadau addysg ar waith

Dogfennau ategol:

4.12

Gweithredu diwygiadau addysg

Dogfennau ategol:

4.13

Cyllideb Llywodraeth Cymru 2023-24

Dogfennau ategol:

4.14

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr

Dogfennau ategol:

(11.25)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.25 - 11.30)

6.

Cymorth Iechyd Meddwl mewn Addysg Uwch - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn ystod y sesiynau blaenorol.

 

(11.35 - 12.00)

7.

Absenoldeb disgyblion - trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

7.1 Yn amodol ar newidiadau i’w cytuno’n electronig y tu allan i’r cyfarfod Pwyllgor, cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.

 

(12.00 -12.15)

8.

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2023 - 2024 – trafod y dull o weithredu

Cofnodion:

8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull o weithredu ar gyfer y gyllideb ddrafft.

 

(12.15 - 12.25)

9.

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - trafod ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru a chytunwyd i ofyn am farn rhanddeiliaid cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor ar 26 Hydref 2022.

 

(12.25 - 12.40)

10.

Rhoi diwygiadau addysg ar waith - trafod y llythyr gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg

Cofnodion:

10.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr a chytunwyd i ofyn am farn rhanddeiliaid.