Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/03/2022 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 O dan Reol Sefydlog 17.22 etholwyd Ken Skates AS yn Gadeirydd Dros Dro am y cyfarfod cyfan.

1.2 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jayne Bryant AS a James Evans AS, ac roedd Peter Fox AS yn dirprwyo ar ran James. Roedd Laura Jones AS yn absennol ar gyfer rhywfaint o eitem 3 ac o eitem 4 yn gyfan. Roedd Sioned Williams AS yn absennol ar gyfer eitem 6.

 

(09.15 - 10.15)

2.

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 6

Laura Doel, Cyfarwyddwr Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon (NAHT) Cymru

Chris Parry, Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon (NAHT) Cymru

Eithne Hughes, Cyfarwyddwr Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL) Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o undebau arweinwyr ysgolion.

2.2 Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunwyd y byddai'r cwestiynau nas gofynnwyd yn cael eu hanfon at y tystion i gael ymateb ysgrifenedig.

 

(10.25 - 11.25)

3.

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymysg dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 7

Mary van den Heuvel, Uwch-swyddog Polisi yr Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU)

Mairead Canavan, Ysgrifennydd Rhanbarth NEU Bro Morgannwg, ac Aelod Gweithredol NEU

Rebecca Williams, Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol a Swyddog Polisi Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o undebau athrawon.

 

(11.35 - 12.35)

4.

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 8

Kelly Harris, Arweinydd Datblygu Busnes a Chyfranogiad Brook Cymru

Iestyn Wyn, Rheolwr Ymgyrchoedd, Polisi ac Ymchwil, Stonewall Cymru

Sophie Weeks, Pennaeth Materion Cyhoeddus a Chyfathrebu, Cymorth i Ferched Cymru

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Stonewall Cymru a Brook Cymru.

 

(13.00 - 13.30)

5.

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 9

Yr Athro EJ Renold, Prifysgol Caerdydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro EJ Renold.

5.2 Cytunodd yr Athro Renold i ddarparu data i'r Pwyllgor ar nifer yr achosion o aflonyddu rhywiol sy'n cyrraedd y trothwy ar gyfer bod yn drosedd.

5.3 Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunwyd y byddai'r cwestiynau nas gofynnwyd yn cael eu hanfon at y tyst i gael ymateb ysgrifenedig.

 

(13.40 - 14.10)

6.

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 10

Kerry Packman, Cyfarwyddwr Gweithredol Rhaglenni, Aelodaeth a Gwasanaethau Elusennol ParentKind

Ceri Reed, Cyfarwyddwr CBC Lleisiau Rhieni yng Nghymru

 

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o blith rhieni a gofalwyr.

6.2 Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunwyd y byddai'r cwestiynau nas gofynnwyd yn cael eu hanfon at y tystion i gael ymateb ysgrifenedig.

 

(14.20 - 14.50)

7.

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 11

Cyfarwyddwr yng Ngwersyll Llangrannog, Canolfan Breswyl yr Urdd

Sally Thomas, Rheolwr Hawliau, Polisi ac Eiriolaeth Merched y DU, Plan UK International

Siobhan Parry, Pennaeth Gwasanaethau Pobl Ifanc Platfform 

 

Cofnodion:

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r gwasanaethau ieuenctid.

 

(14.50)

8.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

8.1 Cafodd y papurau eu nodi.

8.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ei barn ar y papur i’w nodi 3.

 

8.1

Blaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

8.2

Cyllideb Llywodraeth Cymru 2022-23

Dogfennau ategol:

8.3

Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

8.4

Amserlen y Pwyllgorau

 

 

Dogfennau ategol:

8.5

Blaenoriaethau’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Dogfennau ategol:

8.6

Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

Dogfennau ategol:

8.7

Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

Dogfennau ategol:

8.8

Y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)

Dogfennau ategol:

(14.50)

9.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a’r cyfarfod cyfan ar 31 Mawrth.

Cofnodion:

9.1 Derbyniwyd y cynnig i gynnal gweddill y cyfarfod yn breifat.

 

(14.50 - 15.00)

10.

Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

10.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau blaenorol.