Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/01/2024 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.

 

(09:15-09:20)

2.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

2.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Iechyd a Gofal Digidol Cymru i gael eglurhad pellach yn dilyn eu hymateb i argymhellion yr adroddiad ar y cyd, sef 'Craffu ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru', gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd.

 

2.1

Llythyr oddi wrth Iechyd a Gofal Digidol Cymru

 

Mae'r llythyr yn ymateb dilynol gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn dilyn yr adroddiad ar y cyd, sef 'Craffu ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd.

 

Dogfennau ategol:

(09:20-10:50)

3.

Sesiwn Dystiolaeth - Diogelwch Adeiladau yng Nghymru

Swyddog Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol (LABC).

-       Peter Keates – Cyfarwyddwr Gweithredol

 

Swyddog Cyngor Abertawe

-       Peter Richards - Rheolwr Gwasanaethau Rheoliaeth Adeiladu, Profedigaeth a Chofrestru

 

Dogfennau ategol

-       Papur Briffio Archwilio Cymru

-       Adroddiad Archwilio Cymru - 'Craciau yn y Sylfeini' – Diogelwch Adeiladau yng Nghymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Peter Keates, Prif Weithredwr - Rheolaeth Adeiladu Awdurdodau Lleol (LABC) a Peter Richards, Rheolwr Gwasanaethau Rheolaeth Adeiladau, Profedigaeth a Chofrestru - Cyngor Abertawe, fel rhan o'i ymchwiliad i ddiogelwch adeiladau yng Nghymru.

 

(10:50)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig

 

(11:00-11:30)

5.

Diogelwch Adeiladau yng Nghymru - Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law.

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.