Craffu ar Ddiogelwch Adeiladau yng Nghymru

Craffu ar Ddiogelwch Adeiladau yng Nghymru

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad ym mis Awst 2023 a oedd yn edrych ar sut y mae Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’u partneriaid allweddol yn gweithredu gofynion y Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022.

 

Penderfynodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus gynnal ymchwiliad, i edrych yn fanwl ar y dystiolaeth am faterion sy’n deillio o’r adroddiad, gan gynnwys gwydnwch y gweithlu a rheolaeth gyllidol ac i ystyried gallu’r sector i ymateb i newid cyn dechrau gweithredu’r gyfundrefn newydd yn llawn yn 2025, o dan y Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth gyda rhanddeiliaid allanol ar 17 Ionawr 2024 a chynhaliodd sesiwn dystiolaeth arall gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ar 1 Chwefror.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar Ddiogelwch Adeiladau yng Nghymru ar 22 Awst 2024.

 

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar 3 Hydref 2024.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/01/2024