Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 01/12/2021 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00 -09.45) |
Craffu ar Gyfrifon 2020-21 - Comisiwn y Senedd: Trafod yr adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 1.1
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad
drafft a chytunodd arno. 1.2
Bydd yr Adroddiad yn cael ei
gyhoeddi yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 6 Rhagfyr 2022. |
|
(09.45 - 10.30) |
Blaenraglen waith: Gwanwyn 2022 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer
tymor y gwanwyn 2022 a chytunodd ar y camau gweithredu. |
|
(10.30 - 10.35) |
Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Cynaliadwyedd ariannol gwasanaethau dewisol llywodraeth leol ac awdurdodau lleol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor yr adroddiadau. |
|
(10.35 - 10.40) |
Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Gofalu am y Gofalwyr? Sut y mae cyrff y GIG wedi cefnogi lles eu staff yn ystod pandemig COVID-19 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad. |
|
(10.40 - 10.50) |
Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Y Rhaglen Cartrefi Clyd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Cafodd y Pwyllgor friff ar yr Adroddiad, a chafodd ei
nodi. |
|
(11.00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 6.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i elfen gyhoeddus y
cyfarfod. 6.2 Datganodd Cefin Campbell AS ei fod yn Gynghorydd
etholedig yng Nghyngor Sir Caerfyrddin. |
|
(11.00 - 11.15) |
Papur i’w nodi |
|
Craffu ar Gyfrifon 2019-20 – Llywodraeth Cymru: Ymateb i'r Adroddiad ar Graffu ar Gyfrifon 2019-20 Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1 Nodwyd y papur. |
||
(11.15 - 12.15) |
COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru ar faterion llywodraeth leol Tracey Burke -
Cyfarwyddwr Cyffredinol, Y Grŵp
Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus Reg Kilpatrick -
Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydlynu Covid Judith Cole -
Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Cyllid Llywodraeth Leol a Chynaliadwyedd Claire Germain –
Dirprwy Gyfarwyddwr Llywodraeth Leol: Perfformiad a Phartneriaethau Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Ymddiheurodd Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol
Cydlynu Covid am ei absenoldeb gan ei fod yn delio â’r amrywiolyn newydd. 8.2 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru ar
COVID-19 a’i effaith ar faterion yn ymwneud â Llywodraeth Leol. 8.3 Roedd nifer o gamau gweithredu, a chytunodd y
Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ynghylch hynny. |
|
(12.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 10 Cofnodion: 9.1 Derbyniwyd y Cynnig ac roedd hefyd yn cynnwys y
cyfarfod ar 12 Ionawr 2022. |
|
(12.15 - 12.30) |
COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |