Cynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol
Cynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol
Cyhoeddodd Archwilydd
Cyffredinol Cymru adroddiad
ym mis Medi 2021 ar gynaliadwyedd ariannol llywodraeth leol. Mae'r adroddiad
byr hwn yn crynhoi rhai o’r themâu sy'n dod i'r amlwg o'r gwaith yr adroddodd
Archwiliad Cymru arno yn lleol i gynghorau unigol dros yr haf, ynghyd â
rhywfaint o sylwebaeth ar bwysau cyllido a sut y gellid cryfhau cynaliadwyedd
ariannol cynghorau yn y dyfodol.
Cyhoeddodd
Archwilydd Cyffredinol Cymru ei Adroddiad
ar Wasanaethau Dewisol Awdurdodau Lleol ym mis Mawrth 2021. Nid oedd yr
adroddiad hwn yn cynnwys argymhellion penodol ond edrychodd ar sut mae
cynghorau'n diffinio eu gwasanaethau ac yn ceisio amddiffyn gwasanaethau
hanfodol wrth ddelio â thoriadau cyllid. Canolbwyntiodd yr astudiaeth ar sut
mae cynghorau'n diffinio gwasanaethau, y systemau a'r prosesau y maent wedi'u
defnyddio i adolygu gwasanaethau, a pha mor gadarn yw'r rhain.
Er bod pwysau
ariannol wedi arwain at gynghorau yn lleihau gwariant a thorri gwasanaethau,
pwysleisiodd yr adroddiad fod y pandemig wedi amlygu pwysigrwydd a pherthnasedd
llywodraeth leol o ran gwasanaethu ac amddiffyn pobl a chymunedau.
Trafododd y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yr adroddiadau hyn yn
hydref 2021 a thrafododd ei ganfyddiadau â Llywodraeth Cymru ar 1 Rhagfyr 2021.
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/08/2021
Dogfennau