Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/05/2022 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon. Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau
i'r cyfarfod a nododd etholiad Rhys ab Owen AS i'r Pwyllgor ar 10 Mai yn lle
Cefin Campbell AS. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhys ab Owen
AS a Rhianon Passmore AS. Dirprwyodd Peredur Owen Griffiths AS ar ran Rhys ab
Owen AS. |
|
(09.15 - 10.15) |
Comisiynu Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn: Sesiwn dystiolaeth 3 Maria Bell – Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru Dave Street - ADSS
Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Maria Bell o
Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Dave Street o
Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. |
|
(10.25 - 11.25) |
Comisiynu Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn: Sesiwn dystiolaeth 4 Helena Herklots –
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Heléna Herklots,
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. 3.2 Gadawodd y Cadeirydd y cyfarfod dros dro ar ôl y
cwestiwn cyntaf. Gofynnodd y Clerc am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd dros dro o
dan Reol Sefydlog 17.22. Cafodd Natasha Asghar AS ei henwebu gan Peredur Owen
Griffiths AS. Cymeradwyodd y Pwyllgor yr enwebiad. |
|
(11.45 - 12.45) |
Craffu ar weinyddiaeth gyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth Dr Andrew Goodall
– Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Andrew Goodall,
yr Ysgrifennydd Parhaol, fel rhan o'i waith craffu ar weinyddiaeth gyhoeddus. |
|
(12.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem o fusnes a ganlyn: Eitemau 6 a 7 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.45 - 12.55) |
Comisiynu Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12.55 - 13.00) |
Craffu ar weinyddiaeth gyhoeddus: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |