Agenda a chofnodion drafft
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Owain Roberts
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/05/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00-09.15) |
Cofrestru |
|
(09.15-09.30) |
Rhag-gyfarfod preifat |
|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Cyllid. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS. Nid
oedd neb yn dirprwyo ar ran Rhianon Passmore AS. 1.2 Datganodd Mike Hedges AS mai ef yw Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Undeb y Gwasanaethau
Cyhoeddus a Masnachol (PCS). Datganodd hefyd ei fod yn Ymddiriedolwr ar Fwrdd
Pensiynau Aelodau o’r Senedd. |
|
(09.30) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion y
cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 1 Mai Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
PTN 1 – Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Gwybodaeth ychwanegol am gwynion sy’n ymwneud â chynghorwyr – 16 Mai 2024 Dogfennau ategol: |
||
(09.30-10.00) |
Cyllideb Atodol Gyntaf 2024-25: Sesiwn dystiolaeth gyda Chomisiwn y Senedd Hefin David MS,
Comisiynydd y Gyllideb a Llywodraethu Manon Antoniazzi,
Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Kate Innes, Prif
Swyddog Cyllid, Comisiwn y Senedd Ed Williams,
Cyfarwyddwr Adnoddau y Senedd, Comisiwn y Senedd Dogfennau
ategol: FIN(6)-13-24 P1 –
Llythyr gan Gomisiwn y Senedd – 10 Mai 2024 FIN(6)-13-24 P2 –
Cyllideb Atodol Gyntaf Comisiwn y Senedd 2024-25 Briff Ymchwil y
Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Gyllideb Atodol
Gyntaf 2024-25 gan y tystion a ganlyn: Hefin David AS, Comisiynydd y Gyllideb a
Llywodraethu; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd; Kate Innes,
Prif Swyddog Cyllid, Comisiwn y Senedd; ac Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau y
Senedd, Comisiwn y Senedd. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 5, 6, 7 a 9 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
||
(10.00-10.15) |
Cyllideb Atodol Gyntaf 2024-25: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. 5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gomisiwn y Senedd
i ofyn am ragor o wybodaeth am ei gyllideb atodol. |
|
(10.15-10.30) |
Penodiadau Swyddfa Archwilio Cymru: Trafod yr adroddiad drafft Dogfennau
ategol: FIN(6)-13-24 P3 –
Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd
arno. |
|
(10.30-10.45) |
Trafod y Flaenraglen Waith Dogfennau
ategol: FIN(6)-13-24 P4 –
Blaenraglen waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith a chytunodd
arni. |
|
(10.45-11.45) |
Cyhoeddus |
|
(10.45-11.45) |
Cysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol: Sesiwn dystiolaeth 6 Syr Paul Silk,
cyn-Glerc yn Nhŷ’r Cyffredin a Senedd Cymru Paul Evans,
cyn-Glerc Pwyllgorau yn Nhŷ’r Cyffredin Dogfennau
ategol: Briff Ymchwil y
Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar ei ymchwiliad i Gysylltiadau
Rhynglywodraethol Cyllidol gan y tystion a ganlyn: Syr Paul Silk, cyn-Glerc yn
Nhŷ’r Cyffredin a Senedd Cymru; a Paul Evans, cyn-Glerc
Pwyllgorau yn Nhŷ’r Cyffredin. |
|
(11.45-12.00) |
Cysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |