Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Owain Roberts
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
|
Yn ei gyfarfod ar 7 Tachwedd, cytunodd y Pwyllgor ar gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod heddiw. |
||
(09.15-09.30) |
Cofrestru / Rhag-gyfarfod: |
|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiant Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Cyllid. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS. Nid
oedd neb yn dirprwyo ar ran Rhianon Passmore AS. |
|
(09.30-10.30) |
Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru): Sesiwn friffio dechnegol gan swyddogion Llywodraeth Cymru Anna Adams, Dirprwy
Gyfarwyddwr, Yr Is-adran Strategaeth Trethi a Chysylltiadau Rhynglywodraethol,
Llywodraeth Cymru David Greenhough,
Pennaeth yr Ardoll Ymwelwyr, Llywodraeth Cymru India Hitchen, Uwch
Gynghorydd Polisi - Ardoll Ymwelwyr, Llywodraeth Cymru Claire Rush,
Cynghorydd Polisi Arweiniol Chynllun Trwyddedu Statudol, Llywodraeth Cymru Dogfennau
ategol: Bil Llety Ymwelwyr
(Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru), fel y’i cyflwynwyd (PDF, 643KB) Memorandwm
Esboniadol (PDF, 4.7MB) Llywodraeth Cymru
- Sleidiau cyflwyno Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y Pwyllgor friff technegol ar y Bil Llety
Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) gan swyddogion Llywodraeth Cymru. |
|
(10.30-11.00) |
Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru): Dull craffu Dogfennau
ategol: FIN(6)-25-24 P1 -
Dull craffu Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunodd ar ddull
craffu Cyfnod 1 ar y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) a'r
cylch gorchwyl drafft. |
|
(11.00-11.15) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26: Dull craffu Dogfennau
ategol: FIN(6)-25-24 P2 -
Dull craffu Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a oedd yn rhoi
diweddariad ar ei ddull gweithredu o ran craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth
Cymru ar gyfer 2025-26. 4.2 Nododd y Pwyllgor yr amserlen ar gyfer gwaith craffu
a'r dull arfaethedig o ymdrin â’r cyfryngau, a chytunodd hefyd ar feysydd
thematig ar gyfer yr adroddiad. |
|
(11.15-11.30) |
Y dull ar gyfer penodi Aelodau Anweithredol o Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru Dogfennau
ategol: FIN(6)-25-24 P3 –
Papur blaen FIN(6)-25-24 P4 –
Gwybodaeth i ymgeiswyr – fersiwn ddrafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunodd ar y dull o
benodi Aelodau Anweithredol i Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru |
|
(11.30-11.45) |
Fforwm Rhyngseneddol y Pwyllgorau Cyllid: Diweddariad Dogfennau
ategol: FIN(6)-25-24 P5 –
Papur blaen Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y papur a roddodd ddiweddariad
ar gyfarfod nesaf Fforwm Rhyngseneddol y Pwyllgorau Cyllid a gynhelir ar 19
Mawrth. 6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes
mewn perthynas ag Aelodau'r Pwyllgor Cyllid yn mynd i gyfarfod nesaf Fforwm
Rhyngseneddol y Pwyllgorau Cyllid. |
|
(11.45-12.00) |
Trafod y flaenraglen waith Dogfennau
ategol: FIN(6)-25-24 P6 -
Blaenraglen waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith. |
|
(12.00-12.15) |
Ystyried goblygiadau ariannol y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) Dogfennau
ategol: Bil Deddfwriaeth
(Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru), fel y’i cyflwynwyd FIN(6)-25-24 P7 –
Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni - 19 Tachwedd 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan y Cwnsler
Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni, a chytunodd i beidio â chymryd unrhyw gamau
pellach. |
PDF 136 KB