Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Owain Roberts 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Yn ei gyfarfod ar 29 Chwefror 2024, derbyniodd y Pwyllgor gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod heddiw.

(09.15-09.30)

Cofrestru

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.

 

(09.30-10.00)

2.

Bae Caerdydd 2032 - Briffio Technegol Comisiwn y Senedd

Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau y Senedd, Comisiwn y Senedd

Nerys Evans, Pennaeth y Gwasanaeth, Comisiwn y Senedd

Andrew Gibson, Cyfarwyddwr, Avison Young

 

Dogfennau ategol:

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol ar Fae Caerdydd 2032 gan Gomisiwn y Senedd.

 

(10.00-10.30)

3.

Craffu ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24: Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

FIN(6)-07-24 P1 – Adroddiad drafft (Wedi'i gynnwys yn y pecyn atodol)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar y gwaith Craffu ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2023-24 a chytunwyd arno gyda mân newidiadau.

 

(10.30-10.45)

4.

Goblygiadau ariannol y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

FIN(6)-07-24 P2 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Oblygiadau Ariannol y Bil Llywodraeth Leol (Cymru), a chytunwyd arno gyda mân newidiadau.

 

(10.45-11.00)

5.

Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor nodyn y Gwasanaethau Cyfreithiol mewn perthynas â Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024 a chytunwyd ar beidio â chymryd unrhyw gamau pellach.