Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Owain Roberts
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/11/2023 - Y Pwyllgor Cyllid
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cofrestru (09.00-09.15) |
||
Rhag-gyfarfod preifat (09.15-09.30) |
||
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Cyllid. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS. 1.3 Roedd Jack Sargeant AS yn dirprwyo ar ran Rhianon
Passmore. |
|
(09.30) |
Papur(au) i’w nodi Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Papur i’w nodi 1 - Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) - 3 Tachwedd 2023 Dogfennau ategol: |
||
Papur i’w nodi 2 – Llythyr oddi wrth y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) - 9 Tachwedd 2023 Dogfennau ategol: |
||
Papur i’w nodi 3 - Ymateb Comisiwn y Senedd i adroddiad y Pwyllgor ar Graffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2024-25 Dogfennau ategol: |
||
Papur i’w nodi 4 - Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at Gadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio. Cwestiynau dilynol ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 8 Tachwedd 2023 Dogfennau ategol: |
||
Papur i’w nodi 5 - Llythyr gan Gomisiwn y Senedd: Diweddariad ar brisiad tair blynedd Pensiwn y Gwasanaeth Sifil - 13 Tachwedd 2023 Dogfennau ategol: |
||
(09.30-10.15) |
Diweddariad ar sefyllfa ariannol Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn 2023-24: Sesiwn dystiolaeth Rebecca Evans AS,
y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr
Trysorlys, Llywodraeth Cymru Gawain Evans, Cyfarwyddwr
Cyllid, Llywodraeth Cymru Dogfennau
ategol: Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar sefyllfa ariannol
Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn 2023-24 gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog
Cyllid a Llywodraeth Leol; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys, Llywodraeth
Cymru; a Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru. 3.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i: ·
ddarparu nodyn ar y weithdrefn ar
gyfer newid y Grant Cynnal Refeniw (RSG) o fewn blwyddyn ariannol, ac ynghylch
a yw deddfwriaeth sylfaenol yn ofynnol ar gyfer y weithdrefn hon. ·
ofyn i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
am nodyn ar y fformiwla ar gyfer dyrannu cyllid i ysgolion uwchradd, ac ar yr
honiad y gall ysgolion o faint tebyg i’w gilydd weld gwahaniaeth amlwg yn eu
dyraniad cyllid. |
|
Egwyl |
||
(10.15-11.15) |
Goblygiadau Ariannol Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru): Sesiwn dystiolaeth Mick Antoniw AS,
y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Michael Kay, Uwch
Swyddog Cyfrifol y Bil – Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Etholiadau, Llywodraeth
Cymru Mathew Xerri, Pennaeth
Polisi Etholiadau, Is-adran Etholiadau Dogfennau
ategol: Bil Etholiadau a
Chyrff Etholedig (Cymru) (PDF 446KB) Memorandwm
Esboniadol (PDF 2.6MB) Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar oblygiadau ariannol
Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) gan Mick Antoniw AS, y Cwnsler
Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad; Michael Kay, Uwch Swyddog Cyfrifol y
Bil – Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Etholiadau; a Mathew Xerri, Pennaeth
Polisi Etholiadau, yr Is-adran Etholiadau. |
|
(11.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o’r cyfarfod ar 13 Rhagfyr. Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.15-11.25) |
Goblygiadau Ariannol Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(11.25-11.30) |
Diweddariad ar sefyllfa ariannol Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn 2023-24: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |
|
(11.30-12.00) |
Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Papur ar y materion allweddol Dogfennau
ategol: FIN(6)-19-23 P1 -
Papur materion allweddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor y papur materion allweddol ar
Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). |
|
(12.00-12.15) |
Gwaith craffu blynyddol ar Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru: Trafod yr adroddiad drafft Dogfennau
ategol: FIN(6)-19-23 P2 –
Adroddiad drafft (I'w gynnwys yn y pecyn atodol) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytuno
arno. |
|
(12.15-12.30) |
Craffu Blynyddol ar Waith Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Trafod yr adroddiad drafft Dogfennau
ategol: FIN(6)-19-23 P3 –
Adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 10.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytuno
arno. |