Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Owain Roberts
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/10/2023 - Y Pwyllgor Cyllid
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cofrestru (09.00-09.15) |
||
Rhag-gyfarfod Preifat (09.15-09.30) |
||
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Cyllid. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS. 1.3 Roedd Alun Davies AS yn bresennol fel dirprwy yn lle
Rhianon Passmore AS. 1.4 Datganodd Mike Hedges AS ei fod yn Ymddiriedolwr ar
Fwrdd Pensiynau Aelodau’r Senedd. |
|
(09.30) |
Papur(au) i’w nodi Cofnodion y
cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 20 Medi. Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
PTN 1 – Llythyr gan Archwilio Cymru: Rhagor o wybodaeth yn dilyn sesiwn Archwilio Cymru ar 20 Medi - 2 Hydref 2023 Dogfennau ategol: |
||
PTN 2 - Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) – Gwelliannau Cyfnod 3 y Llywodraeth - 2 Hydref 2023 Dogfennau ategol: |
||
(09.30-10.30) |
Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Sesiwn dystiolaeth gyda Chomisiwn y Senedd Ken Skates AS,
Comisiynydd y Gyllideb a Llywodraethu Manon Antoniazzi,
Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Kate Innes, Prif
Swyddog Cyllid Alun Davidson, Clerc,
Tîm Newid Cyfansoddiadol / Strategaeth Busnes Seneddol Dogfennau
ategol: Bil Senedd Cymru
(Aelodau ac Etholiadau), fel y’i cyflwynwyd (PDF, 367KB) Memorandwm
Esboniadol (PDF, 2.6MB) Briff
Rhagarweiniol gan Gynghorydd Arbenigol y Pwyllgor Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Fil Senedd Cymru
(Aelodau ac Etholiadau) gan Ken Skates AS, Comisiynydd y Gyllideb a
Llywodraethu; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd; a Kate
Innes, Prif Swyddog Cyllid. 3.2 Cytunodd Comisiwn y Senedd i ddarparu nodyn ar y
canlynol: ·
Amcangyfrif o gostau teithio a
llety’r Aelodau, yn benodol, pam na wnaeth y Comisiwn fodelu’r costau presennol
yn y meysydd hyn i gynhyrchu ystod o amcangyfrifon. |
|
(10.30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 5 a 7 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.30-10.45) |
Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(10.45-11.15) |
Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Sesiwn dystiolaeth gyda Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd Dr Elizabeth
Haywood, Cadeirydd, Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd Daniel Hurford, Clerc,
Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd Dogfennau
ategol: Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Fil Senedd Cymru
(Aelodau ac Etholiadau) gan Dr Elizabeth Haywood, Cadeirydd Bwrdd Taliadau
Annibynnol y Senedd; a Daniel Hurford, Clerc, Bwrdd Taliadau Annibynnol y
Senedd. |
|
(11.15-12.00) |
Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |