Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Owain Roberts
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/03/2024 - Y Pwyllgor Cyllid
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00-09.15) |
Cofrestru |
|
(09.15-09.30) |
Rhag-gyfarfod preifat |
|
(09.30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Cyllid. |
|
(09.30) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 2.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
PTN 1 - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyllid - 1 Mawrth 2024 Dogfennau ategol: |
||
PTN 2 - Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 4 Mawrth 2024 Dogfennau ategol: |
||
PTN 3 - Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-Sefydliadol - Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol - 5 Mawrth 2024 Dogfennau ategol: |
||
PTN 4 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 - 6 Mawrth 2024 Dogfennau ategol: |
||
(09.30-10.10) |
Cysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol: Sesiwn dystiolaeth 1 Philip Rycroft, Aelod
o’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Dogfennau
Atodol: FIN(6)-08-24 P1 –
Ymateb i'r ymgynghoriad: Dr Paul Anderson Papur briffio gan
Ymchwil y Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar ei ymchwiliad i
Gysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol gan Philip Rycroft, Aelod o’r Comisiwn
Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. |
|
(10.10) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.10-10.20) |
Cysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. 5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Philip Rycroft
gyda rhai cwestiynau ychwanegol ynghylch cysylltiadau rhynglywodraethol
cyllidol. |
|
(10.20-10.35) |
Goblygiadau ariannol y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft Dogfennau
ategol: FIN(6)-08-24 P2 –
Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar
Oblygiadau Ariannol y Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru), a chytunwyd arno
gyda mân newidiadau. |
|
(10.35-10.50) |
Goblygiadau ariannol Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) (Cymru) Dogfennau
Ategol: FIN(6)-08-24 P3 –
Papur cwmpasu (Wedi'i gynnwys yn y pecyn atodol) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor Oblygiadau Ariannol Bil Senedd
Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) (Cymru). |
|
(10.50-11.05) |
Trafod y Flaenraglen Waith Dogfennau
ategol: FIN(6)-08-24 P4 -
Blaenraglen Waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor y Flaenraglen Waith |
|
(11.05-11.20) |
Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26: Y dull gweithredu o ran ymgysylltu Dogfennau
ategol: FIN(6)-08-24 P5 -
Y dull gweithredu o ran ymgysylltu Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar y dull gweithredu o
ran ymgysylltu ynghylch craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer
2025-26. |