Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Owain Roberts 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/02/2024 - Y Pwyllgor Cyllid

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00-0915)

Cofrestru

(09.15-09.30)

Rhag-gyfarfod preifat

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.

 

(09.30)

2.

Papurau i'w nodi

Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 7 Chwefror.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

PTN 1 - Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 21 Chwefror 2024

Dogfennau ategol:

2.2

PTN 2 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhentwyr (Diwygio) - 23 Chwefror 2024

Dogfennau ategol:

2.3

PTN 3 - Llythyr gan Sam Rowlands AS: Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) - 19 Chwefror 2024

Dogfennau ategol:

2.4

PTN 4 - Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol - 26 Chwefror 2024

Dogfennau ategol:

(09.30-10.30)

3.

Craffu ar Ail Gyllideb Atodol 2023-24 Llywodraeth Cymru

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys

Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth

Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaeth Ariannol

 

Dogfennau ategol:

Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2023-24

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllideb a Busnes y Llywodraeth a Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaeth Ariannol wrth Graffu ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24.

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r canlynol:

 

·         Nodyn ar y meysydd o'r MEG Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n tanwario ar hyn o bryd.

 

·         Nodyn ar lefel y cymhorthdal fesul teithiwr mewn perthynas â threnau yng Nghymru.

 

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o’r cyfarfod ar 6 Mawrth

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.30-10.45)

5.

Craffu ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.