Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Owain Roberts
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/01/2025 - Y Pwyllgor Cyllid
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
(08.30 - 08.45) |
Cofrestru |
|
(08.45 - 09.00) |
Rhag-gyfarfod preifat |
|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Cyllid. |
|
(09.00) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau. |
|
|
PTN 1 – Llythyr gan y Llywydd at Fforwm y Cadeiryddion: Cynrychiolaeth ar gyrff rhyngseneddol – 7 Ionawr 2025 Dogfennau ategol: |
||
|
PTN 2 – Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg: Rhagor o wybodaeth gan yr Ysgrifennydd Cabinet am y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru), yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Cyllid ar 5 Rhagfyr – 7 Ionawr 2025 Dogfennau ategol: |
||
(09.00 - 10.00) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26: Sesiwn dystiolaeth 5 Cllr Lis Burnett,
Arweinydd, Cyngor Bro Morgannwg Cllr Nia Jeffreys,
Arweinydd, Cyngor Gwynedd Cllr Anthony
Hunt, Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Cllr Andrew
Morgan, Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Dogfennau
ategol: FIN(6)-02-25 P1 –
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLLC) Briff Ymchwil y
Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Gyllideb Ddrafft
Llywodraeth Cymru 2025-26 gan y tystion a ganlyn: y Cynghorydd Lis Burnett,
Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg; y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor
Gwynedd; y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda
Cynon Taf; a'r Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol
Torfaen. 3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru er mwyn gofyn cwestiwn nas cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn
dystiolaeth ynghylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin. |
|
(10.00 - 10.10) |
Egwyl |
|
(10.10 - 11.10) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26: Sesiwn dystiolaeth 6 Darren Hughes,
Cyfarwyddwr, Conffederasiwn GIG Cymru Catherine
Phillips, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r
Fro a Chadeirydd Grŵp
Cymheiriaid Cyfarwyddwyr Gweithredol Cyllid Lance Carver, Cadeirydd,
Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS Cymru) a
Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bro Morgannwg Jane Thomas,
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, Cyngor Sir Powys (hefyd y Swyddog a.151
yn cynrychioli Cymdeithas Trysoryddion Cymru) Dogfennau
ategol: FIN(6)-02-25 P2 –
Conffederasiwn GIG Cymru FIN(6)-02-25 P3 –
Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) Briff Ymchwil y
Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am Gyllideb Ddrafft
Llywodraeth Cymru 2025-26 gan y tystion a ganlyn: Darren Hughes, Cyfarwyddwr,
Conffederasiwn GIG Cymru; Catherine Phillips, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid,
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a Chadeirydd Grŵp Cymheiriaid y Cyfarwyddwyr Gweithredol Cyllid;
Lance Carver, Cadeirydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol
Cymru, a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Bro Morgannwg; a Jane
Thomas, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol, Cyngor Sir Powys (hefyd y
Swyddog a.151 yn cynrychioli Cymdeithas Trysoryddion Cymru). |
|
(11.20 - 12.10) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26: Sesiwn dystiolaeth 7 Victoria
Winckler, Cyfarwyddwr, Sefydliad Bevan Dogfennau
ategol: FIN(6)-02-25 P4 -
Sefydliad Bevan Briff Ymchwil y
Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Victoria Winckler,
Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan, ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer
2025-26. |
|
(12.10) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn. Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(12.10 - 12.25) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |
|
(12.25 - 12.30) |
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2024 Dogfennau
ategol: FIN(6)-02-25 P5 -
Nodyn Gwasanaethau Cyfreithiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor y nodyn briffio ar Reoliadau
Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio)
2024. Nododd y Pwyllgor adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad ar y rheoliadau hyn, cyn penderfynu peidio â chyhoeddi adroddiad
ar wahân. |
|
(12.30 - 12.35) |
Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2025 Dogfennau
ategol: Rheoliadau Treth
Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru)
2025 FIN(6)-02-25 P6 -
Nodyn Gwasanaethau Cyfreithiol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor y nodyn briffio ar Reoliadau
Treth Trafodiadau Tir (Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru)
2025. Nododd y Pwyllgor adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad ar y rheoliadau hyn, cyn penderfynu peidio â chyhoeddi adroddiad
ar wahân. |
|
(12.35 - 12.40) |
Ymgynghoriad ar adolygiad o God Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru Dogfennau
ategol: FIN(6)-02-25 P7 –
Papur blaen: Ymgynghoriad ar adolygiad o God Ymarfer Archwilio Archwilydd
Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 10.1 Nododd y Pwyllgor y papur ar yr ymgynghoriad ar
adolygiad o God Ymarfer Archwilio Archwilydd Cyffredinol Cymru, cyn penderfynu
peidio ag ymateb yn ffurfiol. |
|
(12.40 - 12.45) |
Cynllun Ffioedd Archwilio Cymru 2025-26 Dogfennau
ategol: FIN(6)-02-25 P8 –
Cynllun Ffioedd 2025-26 Dogfennau ategol: Cofnodion: 11.1 Cymeradwyodd y Pwyllgor Gynllun Ffioedd Archwilio
Cymru 2025-26. |
PDF 315 KB